Enwebu swyddogion Heddlu De Cymru am wobr dewrder ar ôl achub menyw o'r môr
Enwebu swyddogion Heddlu De Cymru am wobr dewrder ar ôl achub menyw o'r môr
Mae chwe swyddog Heddlu De Cymru wedi cael eu henwebu am wobr dewrder ar ôl achub menyw aeth i drafferth yn y môr.
Ar 11 Rhagfyr roedd PC Molly Cana wedi darganfod menyw 66 oed oedd wedi mynd yn sownd rhwng y môr a'r pier yn Nhraeth Aberafan.
Roedd y fenyw yn sownd, ben i waered a ddim yn gallu symud.
Roedd ei bywyd mewn perygl wrth i donnau daro yn erbyn y pier, gan olygu bod pen y fenyw dan y dŵr.
Doedd y swyddogion ddim yn gallu cyrraedd y fenyw gan fod risg y byddant yn cael eu tynnu allan i'r môr.
Gyda chymorth mab-yng-nghyfraith y fenyw, roedd y swyddogion wedi taflu rhaff rownd pigwrn y fenyw a gyda'i gilydd wedi llwyddo i'w thynnu allan cyn rhoi cymorth cyntaf iddi.
Dioddefodd y fenyw anafiadau difrifol i'w chorff ac roedd wedi torri ei chlun, ymysg anafiadau eraill.
Arhosodd y swyddogion gyda'r fenyw cyn i Wylwyr y Glannau gyrraedd.
Mae PC Molly Cana, SPC Colin Davies, SPC David Bird, PC Robert Morgan, PC Daniel Davies a'r Sarsiant Paul Bamsey wedi cael eu henwebu am wobr dewrder.
Dywedodd yr Arolygydd Will John bod gweithredoedd y swyddogion wedi "achub bywyd" y fenyw.
"Roedd hwn yn weithred aruthrol o ddewrder gan yr holl swyddogion a oedd yn rhan o’r digwyddiad, mewn amodau peryglus ac anodd iawn.
“Rhoddodd y swyddogion ddiogelwch y fenyw o flaen eu diogelwch eu hunain does dim amheuaeth y byddai canlyniadau llawer gwaeth i’r fenyw pe na bai’r swyddogion wedi dod o hyd iddi pan wnaethon nhw.
“Mae’n sicr bod meddwl cyflym y swyddogion a mab-yng-nghyfraith y fenyw, Jamie, wedi achub ei bywyd.”