Swyddi creadigol 'mewn perygl’ o achos AI yn ôl artistiaid Cymru
Swyddi creadigol 'mewn perygl’ o achos AI yn ôl artistiaid Cymru
Mae trend newydd o greu hunan bortread gydag AI yn pryderu nifer o artistiaid o Gymru.
Mae’r delweddau wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio’r wefan ChatGPT.
Ond, mae sawl person o’r diwydiant creadigol yn credu bod hyn yn fygythiad i’w bywoliaeth.
“Rwy’n siomi pan fod unrhyw blatfform yn defnyddio celf AI,” dywedodd Mo Carnevale, 23, arlunydd a myfyriwr o Sir Fflint.
“Yn hytrach na llogi arlunwyr go iawn, mae llawer o gwmnïau bellach yn ffafrio defnyddio gwaith celf sy’n cael ei gynhyrchu gan AI.
“Mae ein swyddi fel pobl greadigol mewn perygl. Dylai AI gynorthwyo, nid disodli,” meddai Mo.
Mae Keira Bailey-Hughes, 18, arlunydd o Bethesda, yn gwrthwynebu defnydd AI ar blatfformau Cymreig yn enwedig:
“Mae’n ddiog, ac yn hyrwyddo dwyn gwaith artistiaid.”
Yn ogystal â phryderon y bydd defnydd AI yn bygwth cyflog arlunwyr, mae yna bryder ehangach am yr effaith amgylcheddol.
Mae adroddiad diweddar gan yr IEA (Asiantaeth Ynni Rhyngwladol), yn honni y bydd gofynion ynni ar ganolfannau data yn dyblu erbyn 2030.
Yn ôl yr adroddiad, mae’n bosib fydd canolfannau data yn defnyddio hyd at 945TWh o drydan yn flynyddol, deirgwaith yn fwy na’r DU gyfan.
Yn ôl undeb BECTU, sy’n cynrychioli aelodau mewn swyddi creadigol, mae gan AI botensial enfawr, ond maen nhw'n credu bod angen ei reoleiddio er mwyn gwarchod pobl greadigol.
Dywedodd pennaeth BECTU, Philippa Childs: “Mae potensial enfawr gyda AI, a gyda rheoleiddio priodol, gallai technoleg o'r fath ddod â llawer o fanteision a chyfleoedd i'r diwydiannau creadigol.
"Ond mae'n rhaid i'r llywodraeth fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i gefnogi crewyr.”