Newyddion S4C

Rhan o'r A55 i'r gorllewin ar gau 'am nifer o oriau'

15/04/2025
S4C

Mae rhan o ffordd yr A55 yn y gogledd ar gau ddydd Mawrth o achos digwyddiad yr heddlu.

Mae'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffyrdd 24 a 25 (Abergele) ar gau o ganlyniad i'r digwyddiad ger Bodelwyddan.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod disgwyl i'r ffordd fod ar gau am nifer o oriau tra bod swyddogion yn delio â'r digwyddiad.

Mae teithwyr wedi eu dargyfeirio a'r cyngor yw y dylid paratoi am amser ychwanegol i deithio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.