Newyddion S4C

Syr Alan Bates yn annog dioddefwyr y sgandal post i herio'r llywodraeth yn y llys

Syr Alan Bates

Mae Syr Alan Bates wedi annog dioddefwyr sgandal Swyddfa'r Post i fynd â Llywodraeth San Steffan i'r llys oherwydd yr oedi cyn iddyn nhw gael iawndal.   

Y cyn is-bostfeistr o Landudno oedd un o brif arweinwyr yr ymgyrch i gael cyfiawnder i is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam. 

Cafodd ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin fis Mehefin diwethaf am ei wasanaethau i gyfiawnder, ar ôl sefydlu Cynghrair Cyfiawnder yr Is-bostfeistri.

Mewn e-bost sydd wedi ei anfon at aelodau'r gynghrair honno, mae Syr Alan yn awgrymu mai sicrhau adolygiad barnwrol fyddai'r cam cyflymaf  "er mwyn sicrhau tegwch i bawb." 

Dywedodd wrth y grŵp y gallai gymryd hyd at fis Tachwedd 2027 cyn i bob cais am arian gael ei gwblhau.  

Cafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 ar ôl i system gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon wneud iddi ymddangos bod arian wedi diflannu. 

Mae nifer fawr yn dal i aros am iawndal, er i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn San Steffan gyhoeddi bod £600,000 yn ddyledus i'r rhai a enillodd eu hachos pan gafodd eu dyfarniad gwreiddiol ei ddiddymu.  

Yn ei lythyr, mae Syr Alan yn galw ar aelodau eraill i "gamu i mewn." 

"Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno fy mod i wedi gwneud fy rhan," meddai.

'Llanast'

Mae Christopher Head, yr is-bostfeistr ieuengaf yn y DU yn 2006, ac yntau'n 18 oed wedi cynnig cynorthwyo yn y broses o fynd â'r Adran Fusnes a Masnach i'r llys.    

Wrth gyfeirio at y drefn o geisio hawlio iawndal, dywedodd Syr Alan: "Yn syml, mae'r cynllun yn llanast, a hynny bron o'r cychwyn cyntaf."

Awgrymodd hefyd bod angen ymgyrch godi arian eang, er mwyn cwrdd ag unrhyw gostau cyfreithiol

Mae Adran Fusnes a Masnach San Steffan wedi cael cais am sylw.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.