Newyddion S4C

Tremadog: Dyn 27 oed wedi marw ar ôl cymryd cymysgedd o gyffuriau

Cyngor Gwynedd

Mae cwest i farwolaeth dyn 27 oed o Harlech wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i gymryd cymysgedd o gyffuriau.

Bu farw Andrew Francis Flynn yn Nhremadog ar 14 Ionawr eleni. 

Clywodd y cwest fod Mr Flynn wedi bod mewn tŷ ffrind iddo ar noson ei farwolaeth pan stopiodd anadlu'n sydyn, gan ddisgyn yn ddiymadferth i un ochr.

Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Ei Fawrhydi dros Ogledd Orllewin Cymru, fod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn galwad am 19.08 gan swyddogion o'r Gwasanaeth Ambiwlans yn gofyn am gymorth brys.

Roedd parafeddygon yn cynnal triniaeth CPR ar Mr Flynn ar y pryd. 

Daeth cadarnhad swyddogol o'r farwolaeth am 19.12 gan barafeddygon, ac fe gafodd y corff ei adnabod yn ffufiol gan nain Mr Flynn.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan yr Ymgynghorydd Mark Atkinson, ac fe gymerwyd samplau ar gyfer profion tocsicoleg.

Dangosodd canlyniadau'r profion hynny fodolaeth cymysgedd o forffin, Pregabalin a chocên yn ei gorff.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.