Yr actores Samantha Davis wedi marw oriau cyn disgwyl ei rhyddhau o'r ysbyty
Fe fuodd yr actores Samantha Davis farw o ataliad ar y galon oriau cyn bod yr ysbyty yn bwriadu gadael iddi fynd adref.
Dyna oedd casgliad cwest i’w marwolaeth.
Ym mis Mawrth y llynedd y buodd Ms Davis, oedd yn wraig i Warwick Davis farw.
Roedd hi wedi mynd i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain ym mis Chwefror ar ôl iddi golli’r gallu i symud ei choesau.
Cafodd lawdriniaeth i agor y frest ac wrth i’w chyflwr wella, y bwriad oedd gadael iddi fynd adref.
Ond oriau wedyn cafodd ataliad ar y galon ac fe fuodd hi farw.
Casgliad y crwner, Yr Athro Fiona Wilcox, oedd bod Ms Davis wedi marw o ataliad ar y galon yn dilyn cymhlethdodau i lawdriniaeth hanfodol.
Dywedodd bod gan yr actores achondroplasia, sef cyflwr sydd yn effeithio ar allu’r esgyrn i dyfu ac wedi golygu bod ganddi'r cyflwr Corachedd (dwarfism).
Fe olygodd hynny bod yn rhaid iddi gael sawl llawdriniaeth o 2016 ymlaen.
Dywedodd y crwner nad oedd ganddi unrhyw bryderon am y gofal yr oedd hi wedi ei dderbyn yn yr ysbyty.
“Dwi wedi darganfod dim ond gofal gwych i’r fenyw yma ac fe wnaethon nhw ddelio gyda’i holl gymhlethdodau iechyd mewn ffordd addas.
"I siarad yn blaen, mae’n dorcalonnus bod y llawdriniaeth ei hun wedi bod yn llwyddiant ond yna bod cymhlethdodau wedi codi wnaeth achosi ei marwolaeth,” meddai.
Dywedodd un llawfeddyg oedd wedi trin Ms Davis ei bod yn gwella yn dda ac mai’r bwriad oedd gadael iddi fynd adref.
“Yn drist iawn, y noson y digwyddodd hyn y cynllun gwreiddiol oedd y byddai yn cael mynd adref y diwrnod wedyn,” meddai’r Llawfeddyg David Lawrence.
Fe sefydlodd Ms Davis a’i gŵr yr elusen Little People UK er mwyn helpu unigolion a’u teuluoedd sydd gyda’r cyflwr Corachedd. Fe wnaeth y ddau actio gyda’i gilydd yn y ffilm Harry Potter And The Deathly Hallows: Part 2.
Ym mis Chwefror fe wnaeth Warwick Davis dalu teyrnged i’w wraig pan gafodd wobr Bafta.
Dywedodd bod “bywyd wedi bod yn reit anodd” ers iddi farw a’i bod hi wastad wedi bod “mor gefnogol o fy ngyrfa, yn fy annog i gymryd bob cyfle gyda dwy law."