Newyddion S4C

Rheolwr Newcastle, Eddie Howe yn gwella ar ôl cael niwmonia

Eddie Howe

Mae rheolwr clwb pêl droed Newcastle, Eddie Howe yn gwella yn yr ysbyty ar ôl iddo gael niwmonia.

Fe aeth Howe sy’n 47 i’r ysbyty ddydd Gwener ar ôl teimlo yn sâl am rai dyddiau.

Mae Newcastle wedi dweud na fydd Howe yn bresennol yn y ddwy gêm nesaf. Bydd y rheolwyr cynorthwyol yn camu i’w le.

Mewn datganiad dywedodd Eddie Howe ei fod eisiau “diolch” i gefnogwyr y clwb am yr holl “negeseuon a dymuniadau da.

“Maen nhw wedi golygu lot i fi a fy nheulu.”

“Fe fydden ni hefyd yn hoffi talu teyrnged i’r GIG gwych a’r staff yn yr ysbyty sydd wedi fy nhrin.

"Dwi’n dra diolchgar am y gofal arbenigol dwi’n ei gael. Ar ôl cyfnod o adferiad fe fyddai yn edrych ymlaen at ddychwelyd cyn gynted ag sy’n bosib.”

Bydd Newcastle yn chwarae yn erbyn Crystal Palace nos Fercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.