Newyddion S4C

Enwi dynes fu farw mewn canolfan farchogaeth yn lleol

Katie Hacche

Mae dynes fu farw mewn canolfan farchogaeth yn Sir Gâr dros y penwythnos wedi ei henwi’n lleol fel Katie Hacche. 

Roedd Katie Hacche yn 25 oed.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganolfan Little Mill Equestrian ger Bronwydd ar gyrion Caerfyrddin tua 10.20 ddydd Sadwrn.

Ond dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod hi wedi marw yn y fan a'r lle.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Little Mill Equestrian eu bod "mewn sioc".

"Rydyn ni gyd yn torri ein calonnau ac mewn sioc wedi'r hyn ddigwyddodd," meddai'r datganiad.

"Allwn ni ddim cyfleu mewn geiriau sut rydyn ni'n teimlo.

"Mae'n ein hatgoffa, hyd yn oed ar ddiwrnod tawel yn gwneud y gamp rydyn ni'n ei charu, mae risg yn gysylltiedig â'r peth.

"Rydym yn gwneud popeth rydyn ni'n gallu i sicrhau diogelwch pobl".

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad ydi’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.