
Pryder wedi ‘pwl o fandaliaeth’ i gynllun hydro cymunedol
Mae pryderon wedi eu codi ar ôl i gynllun hydro cymunedol Llanberis gael ‘pwl o fandaliaeth’ yn ddiweddar.
Daeth criw o wirfoddolwyr o ardal Llanberis at ei gilydd yn 2013 i weithio ar system hydro cymunedol wedi llwyddiant Ynni Anafon yn Abergwyngregyn.
Yn ôl Paula Roberts, un o’r gwirfoddolwyr, mae’r cynllun ynni hydro wedi bod yn llwyddiannus iawn. Fe gafodd ei roi yn ôl ymlaen ddydd Llun wedi cyfnod o gael ei ddiffodd oherwydd y tywydd sych.
“Does dim llawer o drafferth wedi bod o gwbl tan yn ddiweddar iawn” meddai.
Dywedodd eu bod wedi profi “pwl o fandaliaeth” wedi i’r cwt gael ei ddifrodi ar 1 Ebrill, ac eto ar 12 Ebrill.

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ynni Padarn Peris fod “rhyw gnafon wedi difrodi cwt tyrbin yr hydro gymunedol.”
Roedd difrod wedi ei wneud i’r drws ac i’r cladin pren ar y tu allan.
Yn ôl Paula, roedd y fandaliaid wedi llosgi’r hyn yr oedden nhw wedi cael gafael arnyn nhw o du fewn y cwt, gan gynnwys cadair a chabinet, ar y gwellt y tu allan.
Roedden nhw hefyd wedi llosgi’r llyfr a oedd yn cynnwys cofnodion gan y gwirfoddolwyr am yr egni yr oedden nhw wedi’i gynhyrchu.
Ond, “diolch i’r drefn” meddai Ynni Padarn Peris, “mae’r system ei hun yn iawn”.
Wedi cyfnod o gasglu cyfranddaliadau yn y gymuned, cafodd y cynllun hydro cymunedol ei gomisiynu a’i adeiladu yn 2017.
Mae’r tyrbin hydro yn cynhyrchu 50KW drwy ddefnyddio’r dŵr sy’n llifo yn Afon goch, Llanberis.
Criw o ddeg o wirfoddolwyr sydd bellach yn rhedeg y cynllun. Mae £10,000 o’r arian sydd dros ben yn cael ei roi i elusen leol sy’n ei ddosbarthu i brosiectau cymunedol yn y dyffryn.
Mae swm tebyg hefyd yn cael ei roi i’r cyfranddalwyr fel llog.

“Mae’n amhosib rhoi bys ar y pwy a’r pam” meddai wrth sôn am yr unigolion a oedd wedi gwneud y difrod.
“Ti’n trio dy orau i greu bach o bres i brosiectau fedrith pobl gael bach o fudd ganddyn nhw a llwyddo efo nhw.”
Dywedodd bod y difrod yn golygu y bydd angen iddyn nhw wario arian ar y cwt a chael drysau newydd.
“Mae hyn yn mynd i gostio cannoedd mae’n siŵr i drwsio’r drws ac ail-gladio’r tu allan”.
Dywedodd hefyd bod difrod wedi ei wneud i’r wifi, sy’n bwysig er mwyn cael cyswllt gyda’r grid cenedlaethol. Mae hwnnw erbyn hyn wedi ei adfer.

Mae’r heddlu bellach wedi bod at y cwt ddwywaith ar ôl derbyn galwadau am y difrod.
“’Da ni wedi cael ychydig o gyngor gan yr heddlu ar sut i ddiogelu’r adeilad, ond mae hynny eto yn mynd i gostio pres ychwanegol,” meddai.
“Mae’n tynnu’r arian i ffwrdd o bethau lleol a all ddefnyddio’r arian yna at bethau gwell”.