Newyddion S4C

Hawliau cynllunio AirBnB dadleuol yng Ngwynedd o dan y lach

Ysgubor Plas Coch

Mae gan berchennog AirBnB sydd wedi bod yn destun cwynion am sŵn fis i apelio cyn wynebu gorfod troi y tŷ gwyliau yn ôl yn ysgubor.

Roedd rhai o drigolion pentref Penisarwaun yng Ngwynedd wedi cwyno am “ymwelwyr swnllyd yn chwarae cerddoriaeth uchel" a defnydd "swnllyd" o dwba poeth.

Cafodd cais ôl-weithredol i drosi’r adeilad allanol yn lety gwyliau ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ym mis Rhagfyr gan olygu y gallai y perchennog, Karl Jones, orfod tynnu ffenestr enfawr o'r adeilad.

Byddai hefyd yn golygu dychwelyd yr ysgubor i’w statws flaenorol fel “adeilad ategol” i’r prif dŷ.

Mae gan Mr Jones hyd at 2 Hydref cyn gorfod cydymffurfio â chais y cyngor ond mae ganddo fis arall, sef chwe mis ers y cais gwreiddiol, i apelio.

Mynnodd y perchennog yn flaenorol fod honiadau pentrefwyr am ymddygiad swnllyd ymwelwyr wedi eu "gorliwio ac yn ddi-sail".

Dywedodd dau o drigolion Penisarwaun, Mick a Jean Sharp, bod yr ysgubor wedi bod yn “brysur iawn” drwy gydol mis Ebrill, y Pasg, hanner tymor a Gwyliau’r Banc.

“Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni fynd o gwmpas eto a gofyn yn gwrtais i rai ymwelwyr a fyddent yn gwrthwynebu troi’r gerddoriaeth i lawr,” medden nhw.

Roedden nhw hefyd yn “bryderus” y bydd yn rhaid iddyn nhw aros chwe mis, tan ddechrau mis Hydref, cyn i’r Cyngor “gymryd y cam nesaf”.

Roedden nhw wedi synnu o dderbyn llythyr gan Arweinydd Tîm Gorfodi y Cyngor, Aneurin Môn Parry, yn dweud nad oedd perchennog y tŷ eto wedi apelio y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n parhau i “fonitro” y sefyllfa.

“Gallwn gadarnhau bod llythyr wedi’i anfon at drigolion gan Aneurin Môn Parry fel Arweinydd y Tîm Gorfodi,” meddai.

“Mae’r hysbysiad gorfodi mewn grym ac mae’n ofynnol cydymffurfio’n llawn erbyn 2 Hydref, 2025.

“Fodd bynnag, mae gan yr ymgeisydd yr hawl o hyd i apelio yn erbyn cais cynllunio C23/0463/18/LL o fewn chwe mis i ddyddiad y penderfyniad. 

“Bydd y cyngor yn parhau i fonitro’r sefyllfa.”

Mae Karl Jones wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.