Newyddion S4C

Cymeradwyo cynllun i adeiladu 28 tŷ mewn pentref ym Môn

Cynllun tai Ynys Môn

Mae cynllun i adeiladu 28 tŷ i fynd i’r afael â’r “argyfwng tai” ar Ynys Môn wedi ei gymeradwyo.

Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn y cynllun ar gyfer 19 o dai fforddiadwy a naw eiddo marchnad agored ar dir ger Maes Merddyn ym Mrynsiencyn.

Byddai'r datblygiad yn cynnwys wyth fflat un ystafell wely, 13 tŷ dwy ystafell wely, pum tŷ tair ystafell wely a dau annedd pedair ystafell wely.

Wrth siarad ar ran yr ymgeisydd Williams Homes (Bala) Ltd, dywedodd Jamie Bradshaw wrth y cyfarfod ddydd Mercher fod “angen clir am dai”.

Dyma “gynllun fforddiadwy” i ddarparu “cartrefi o ansawdd uchel” ym Mrynsiencyn, meddai.

Byddai’n cynnwys cymysgedd o gartrefi fforddiadwy traddodiadol a chartrefi marchnad agored cost isel.

Roedd pryderon wedi codi am faterion fel preifatrwydd, tylluanod ac ystlumod yn colli cynefin, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, llifogydd a seilwaith annigonol.

Dywedodd swyddogion na fyddai'r cynnig yn arwain at golli preifatrwydd.

Roedd wedi cael ei asesu'n ecolegol gan swyddog ecoleg y cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru a doedd dim gwrthwynebiadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.