Arweinydd Cyngor Powys yn ymddiswyddo
Mae arweinydd Cyngor Powys wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt ei fod wedi bod yn “gyfnod anodd a chythryblus” i’r cyngor oherwydd heriau ariannol.
Serch hynny dywedodd y cynghorydd sy’n cynrychioli y Democratiaid Rhyddfrydol bod ei gyfnod wrth y llyw wedi “rhoi gwir ddiléit” iddo.
Bydd yn ymddiswyddo yn ffurfiol fel arweinydd y cyngor yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar y 15 Mai.
Roedd sïon fod James Gibson-Watt yn bwriadu ymddiswyddo ers rhai misoedd.
Fis Mawrth fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Aled Davies, alw arno i ymddiswyddo ar ôl adroddiad beirniadol gan Estyn am adran addysg y sir.
Mae grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ethol y Cynghorydd Jake Berriman fel ei olynydd ac arweinydd y grŵp.
Dywedodd y Cynghorydd Gibson-Watt fod gan ei olynydd tebygol ei “gefnogaeth ddiamod”.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd a chythryblus, gyda chyfyngiadau ariannol di-ddiwedd a heriau chwyddiant ac argyfwng costau byw parhaus,” meddai.
“Ond, er gwaethaf hynny, mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud o ran gwella'r system gofal cymdeithasol, trawsnewid system addysg Powys, datblygu'r economi a cynnydd tuag at dod yn sefydliad 'Sero Net'.
“Rwy'n arbennig o falch o'r ffordd y mae'r cyngor wedi datblygu partneriaethau ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru a'r siroedd sy'n ffinio â Phowys yn Lloegr.
“Mae gweithrediad ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol yn dibynnu ar weithio partneriaeth llwyddiannus ac mae sylfeini cadarn bellach wedi'u gosod i sicrhau hyn ac y bydd cydweithio'n gallu datblygu ymhellach.”