Newyddion S4C

Dyn o Sir Gâr ar goll yng Ngwlad Thai ers dros fis

Daniel Davies
Daniel Davies

Mae teulu Cymro 26 oed o Sir Gâr sydd wedi bod ar goll yng Ngwlad Thai am dros fis yn pryderu amdano.

Cafodd Daniel Davies o Lanelli ei weld ddiwethaf ar ynys Koh Phi Phi - ynys sy'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Roedd yn aros yn yr Hangover Hostel yn Bangkok, prifddinas y wlad, cyn hynny.

Dywedodd ei deulu nad oeddynt wedi bod mewn cysylltiad gydag ef ers 13 Mawrth.

Dywedodd ei fodryb Nicola Doran "nad oes unrhyw un wedi bod mewn cysylltiad gyda Daniel ers wythnosau."

Ychwanegodd ffrind Daniel, Lucia Froom bod "ei ffôn wedi ei ddiffodd ac nid oes neb wedi clywed ganddo ers wythnosau, sydd yn anarferol iawn."

Nid yw swyddogion yr heddlu yn y wlad wedi dod o hyd i Daniel hyd yma.

Mae'r teulu wedi bod mewn cysylltiad gyda Heddlu Dyfed-Powys, ac mae Swyddfa Dramor y DU yn ymwybodol o'r hyn sydd yn digwydd, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd yr heddlu yn y DU fod Daniel tua chwe troedfedd a thair modfedd o daldra gyda gwallt melyn a barf.

Hefyd mae ganddo datŵ yn gorchuddio un o'i freichiau.

Mae SARS Cymru yn chwilio amdano, yn ogystal ag elusen sydd yn chwilio am bobl sydd ar goll, Echoes of the Lost.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.