Actores Upstairs, Downstairs wedi marw yn 90 oed
Mae’r actores Jean Marsh, oedd yn fwyaf enwog am ei chymeriad yn y ddrama deledu Upstairs, Downstairs wedi marw yn 90 oed.
Drama oedd yn sôn am hynt a helynt teulu cyfoethog yn Llundain a’i gweision oedd Upstairs, Downstairs.
Roedd y ddrama wedi ei gosod yn ystod cyfnodau hanesyddol pwysig rhwng 1903 ac 1930. Cafodd ei darlledu rhwng 1971 ac 1975.
Fe wnaeth Jean Marsh gyd-greu’r ddrama boblogaidd gyda’r actores Eileen Atkins. Cafodd wobr Emmy am y ffordd y gwnaeth hi bortreadu’r forwyn Rose Buck yn y gyfres.
Dywedodd: “Dwi’n meddwl fod yna rhyw egni arbennig gan Upstairs, Downstairs. Mae yna rywbeth amdani sydd yn dod a’r gorau allan mewn pobl.”
Cafodd Marsh ei geni yn nwyrain Llundain yn Stoke Newington yn 1934.
Fe ddechreuodd gymryd diddordeb yn y byd perfformio ar ôl dechrau dosbarthiadau dawnsio a meim fel therapi ar gyfer salwch.
Portreadu Rose Buck eto
Ymhlith ei hymddangosiadau cyntaf ar y teledu oedd The Twilight Zone a Danger Man. Cafodd rhannau hefyd yn Doctor Who a chyfresi fel Sense And Sensibility, Hawaii Five-O a Murder, She Wrote.
Ymhlith y ffilmiau enwog y gwnaeth hi actio ynddyn nhw oedd Willow (1988), Frenzy (1972) a’r ffilm rhyfel The Eagle Has Landed (1976).
Fe wnaeth hi gydweithio eto gydag Atkins yn ddiweddarach er mwyn creu’r ddrama hanesyddol The House of Eliott.
Yn 2010 cafwyd cyfres newydd o Upstairs, Downstairs ac fe ail gydiodd yng nghymeriad Rose Buck.
Cafodd hefyd ei chanmol am ei gwaith actio ar lwyfan.
Roedd hi’n briod gyda Jon Pertwee am bum mlynedd cyn iddyn nhw ysgaru yn 1960.
Cafodd OBE gan y frenhines yn 2012 am ei gwasanaeth i fyd y ddrama.