Newyddion S4C

Cynllwyniwr bom Arena Manceinion wedi ymosod ar dri swyddog carchar

Hashem Abedi

Mae cynllwyniwr bom Arena Manceinion, Hashem Abedi, wedi ymosod ar dri swyddog carchar gydag olew coginio poeth, meddai Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA).

Fe wnaeth Abedi daflu olew coginio poeth dros y swyddogion ddydd Sadwrn cyn gwneud arfau a’u trywanu, meddai POA, undeb llafur sy’n gwasanaethu staff carchardai.

Dywedodd yr undeb ddydd Sul fod y swyddogion a gafodd eu trywanu bellach mewn cyflwr sefydlog.

Yr Heddlu Gwrthderfysgaeth (CTP) yng ngogledd ddwyrain Lloegr fydd yn arwain yr ymchwiliad i’r “ymosodiad difrifol”.

Dioddefodd y swyddogion anafiadau a oedd yn peryglu bywyd gan gynnwys llosgiadau, sgaldiadau a chlwyfau trywanu yn yr ymosodiad “dieflig”, meddai’r POA.

Fe gadarnhaodd y Gwasanaeth Carchardai fod tri swyddog carchar wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad gan garcharor ynng ngharchar Frankland, Swydd Durham.

Cafodd un swyddog benywaidd ei rhyddhau erbyn 16:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd CTP nos Sadwrn fod gan y ddau sy'n dal yn yr ysbyty anafiadau difrifol.

Cafodd Abedi ei garcharu am oes am gynorthwyo ei frawd Salman Abedi a laddodd ei hun a 22 o bobl trwy ffrwydro bom mewn sachell mewn torf wrth fynd i gyngerdd.

Dywedodd uwch gydlynydd cenedlaethol dros dro CTP, y Comander Dom Murphy: “Mae hwn yn ymchwiliad parhaus sydd yn ei gamau cynnar, ac rydym yn gweithio’n galed i sefydlu’r ffeithiau. Felly, ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.