Dyn 57 oed yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio menyw mewn parc yn Sir Gâr
Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio menyw mewn parc yn Sir Gaerfyrddin.
Mae James McKenna hefyd wedi'i gyhuddo o fod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a stelcian yn dilyn y digwyddiad ar 29 Ionawr.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau, ond ni gyflwynodd ble.
Siaradodd McKenna, o Gaerfyrddin, i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad yn unig.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 9 Mawrth.
Fe gafodd McKenna ei arestio nos Lun yn dilyn ymgais honedig i lofruddio menyw yn nhref Caerfyrddin.
Nid yw'r fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad wedi'i hanafu'n ddifrifol ac mae disgwyl iddi wella'n llwyr, yn ôl yr heddlu.