Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i effaith cau ysgol cyfrwng Cymraeg yn Sir Gâr

Llansteffan
Llansteffan

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i effaith cau ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gâr.

Daw'r ymchwiliad ar ôl cwyn gan y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith, ynglyn â chynllun i gau Ysgol Llansteffan yn y sir.

Dywedodd y mudiad eu bod yn credu nad oedd digon o gapasiti ar gael i ddisgyblion o ardal Llansteffan yn y blynyddoedd nesaf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac y byddai nifer ohonynt yn cael eu gorfodi i dderbyn addysg cyfrwng Saesneg.

Maen nhw hefyd yn honni nad oedd yr asesiad effaith iaith a gafodd ei gynnal gan Gyngor Sir Gâr fel rhan o'r broses yn darparu unrhyw astudiaeth ystyrlon o effaith cau'r ysgol ar y gymuned.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Y ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddarparu digon o leoedd yn lleol mewn addysg cyfrwng Cymraeg yw cadw Ysgol Llansteffan ar agor a gwneud gwell defnydd o’r adeiladau i gynnig addysg amgylcheddol ac i godi arian ychwanegol fel yr amlinellwyd yng nghynigion llywodraethwyr yr ysgol."

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu ymchwilio a bydd yn penderfynu a yw’r cyngor wedi methu â chydymffurfio â thri gofyniad penodol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, aelod y cabinet dros addysg, ei fod yn ymwybodol o'r gŵyn ac y byddai’r awdurdod yn darparu unrhyw wybodaeth.

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ffactor perthnasol, gan gynnwys yr effaith ar yr iaith Gymraeg, yn cael eu harchwilio’n drylwyr fel rhan o’r broses hon," meddai.

Ym mis Tachwedd, fe wnaeth y cyngor gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Roedd wyth o ddisgyblion yn mynd i'r ysgol ar ddechrau 2025, a dywedodd y cyngor fod niferoedd y disgyblion yn parhau'n isel.

Erbyn hyn, mae'r cyfnod hysbysiad statudol wedi dod i ben a dywedodd y Cynghorydd Davies fod yr holl adborth yn cael ei ystyried.

Ychwanegodd y bydd y cyngor yn ystyried yr adborth hwn ac yn gwneud penderfyniad am ddyfodol yr ysgol maes o law.

Os bydd y cyngor yn bwrw ymlaen gyda'r cynllun i gau'r ysgol, byddai dalgylch Ysgol Llansteffan yn cael ei chynnwys o fewn dalgylch Ysgol Llangain, gyda chludiant ysgol yn cael ei ddarparu.

Dywedodd Mr Ffransis fod Cymdeithas yr Iaith o'r farn bod angen cynnal ymgynghoriad newydd am y cynnig i gau'r ysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.