Clwb Rygbi Abertawe yn gwrthod uno gyda'r Gweilch
Mae Clwb Rygbi Abertawe yn dweud eu bod yn gwrthod uno gyda'r Gweilch wedi sylw honedig gan brif weithredwr y rhanbarth yn awgrymu ei fod yn bosibilrwydd.
Daw sylwadau'r clwb wedi i Gyngor Abertawe gael gwybod mewn cyfarfod gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) a'r Gweilch na fydd y rhanbarth yn bodoli ar ôl diwedd y tymor nesaf.
Mae hynny'n amodol ar berchnogion y Gweilch, Y11 yn cwblhau prynu rhanbarth Caerdydd.
Dywedodd Cyngor Abertawe er eu bod wedi bwriadu cyhoeddi cofnodion o'r cyfarfod gydag URC a'r Gweilch, a gafodd ei gynnal ar 22 Ionawr, nad ydyn nhw wedi gwneud hyn, yn dilyn gwrthwynebiad gan URC, y Gweilch a Y11.
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Abertawe fod prif weithredwr y Gweilch, Lance Bradley, wedi dweud y gallai "Abertawe a'r Gweilch uno" a chystadlu yn Super Rygbi Cymru yn y dyfodol.
'Pryderon difrifol'
Dywedodd Clwb Rygbi Abertawe bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am ddatganiad Cyngor Abertawe.
"I fod yn hollol glir, dyma'r tro cyntaf i fwrdd y clwb wybod am unrhyw fath o gynnig fel hyn.
"Rydym yn unfrydol yn ein gwrthwynebiad i'r awgrym hwn.
"Mae gan Glwb Rygbi Abertawe hanes balch a nodedig sy'n dyddio'n ôl i 1872. Bydd tymor 2026/27 yn nodi 150 mlynedd o'r clwb yn chwarae yn Sain Helen.
"Mae unrhyw gynnig sy'n awgrymu bod modd hepgor mwy na 150 mlynedd o hanes yn gwbl anaddas, a byddai'n ddinistriol i'r clwb, ei gefnogwyr, a'r gymuned ehangach.
"Nodir y datganiad ddiffyg dealltwriaeth glir ac empathi â diwylliant rygbi Cymru. Mae hefyd yn rhoi amheuaeth ddifrifol ynghylch dyfodol rygbi proffesiynol yn y rhanbarth.
"Rydym yn annog Undeb Rygbi Cymru i wrando ar y gwrthwynebiad llethol i'w cynlluniau ac i ailystyried y cyfeiriad y maent yn ei gymryd."
Cafodd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y Gweilch ei gynnal nos Fercher dan arweiniad Cyngor Abertawe.
Roedd sawl cyn-chwaraewyr y Gweilch fel Alun Wyn Jones, James King, Andrew Bishop a Paul James yno, ynghyd â channoedd o bobl eraill.
Ymateb
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud "nad ydyn nhw'n gallu cynnig sylw" ar y mater hwn wedi i Gyngor Abertawe gyhoeddi llythyr cyfreithiol cyn-gweithredu at URC ac Y11, yn rhybuddio am gamau cyfreithiol os na fydd ailstrwythuro rygbi proffesiynol Cymru yn cael ei ohirio.
Mae URC eisiau lleihau nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.
Dywedodd y Gweilch, "nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch dyfodol y Gweilch ar ôl tymor 2026-27, ac nid oes unrhyw ddatganiadau wedi'u gwneud gan Lance Bradley nac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r Gweilch sy'n gwrth-ddweud hynny.
"O ystyried sensitifrwydd y materion hyn a'r ffaith eu bod yn cynnwys sawl parti a thrafodaethau parhaus, byddai'n amhriodol i'r Gweilch wneud sylwadau ar ddehongliadau o gyfarfodydd, cynigion sydd heb eu cwblhau, neu ohebiaeth gyfreithiol.
"Mae'r Gweilch yn parhau i fod wedi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol â'r holl randdeiliaid, ac fe fyddwn yn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn dryloyw pan fydd gwybodaeth wedi'i gadarnhau i'w rannu."