Arestio disgybl ar amheuaeth o geisio llofruddio athro mewn ysgol yn Sir Benfro

Arestio disgybl ar amheuaeth o geisio llofruddio athro mewn ysgol yn Sir Benfro

Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio athro yn dilyn ymosodiad honedig mewn ysgol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau toc wedi 15.20 ddydd Iau yn dilyn adroddiad bod disgybl a oedd yn chwifio arf wedi ymosod ar athro yno.

Mae’r athro’n derbyn triniaeth feddygol am ei anafiadau. Nid yw'r anafiadau yn anafiadau trywanu.

Cafodd yr ysgol ei chloi i lawr yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi’i hailagor.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Chris Neve: "Mae pob disgybl yn y lleoliad yn ddiogel, ac mae’r rhan fwyaf wedi mynd adref.

"Mae swyddogion yn parhau yn yr ysgol. Mae bachgen 15 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddiaeth ac mae yn nalfa’r heddlu."

Wrth ymateb i'r digwyddiad nos Iau, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan mewn datganiad: “Rwy’n bryderus iawn ynghylch y digwyddiad yn yr ysgol yn Aberdaugleddau. 

"Ar ôl ymweld â’r ysgol yr wythnos diwethaf yn unig, mae’r newyddion hwn yn arbennig o ddychrynllyd.

“Mae fy meddyliau gyda’r athro sydd wedi ei anafu, ei deulu a chymuned gyfan yr ysgol yn ystod yr amser anodd hwn.

“Hoffwn roi teyrnged i’r gwasanaethau brys a staff yr ysgol am eu hymateb cyflym a phroffesiynol wrth sicrhau diogelwch y disgyblion a’r staff."

Ychwanegodd: “Er bod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad byw gan yr heddlu y mae’n rhaid caniatáu iddo fynd ymlaen heb ymyrraeth, hoffwn fod yn ddiamwys…nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein hysgolion.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.