Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau dydd Sul

CPD Pen-y-bont

Dwy rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob pen o’r gynghrair.

Mae Pen-y-bont wedi selio’r ail safle am y tro cyntaf erioed, a pe bae’r Seintiau’n llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf yna mi fydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop.

Chwech Uchaf

Pen-y-bont (2il) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl curo’r Seintiau Newydd bythefnos yn ôl mae Pen-y-bont wedi sichrau’r ail safle, sef eu safle uchaf erioed yn yr uwch gynghrair. 

Mae Pen-y-bont felly yn sicr o osgoi rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, a pe bae’r Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru yna bydd tîm Rhys Griffiths yn camu’n syth i Ewrop.

Dyw Caernarfon m’ond wedi ennill un o’u naw gêm oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM, a daeth y fuddugoliaeth honno ym mis Mawrth 2022 (Pen 0-3 Cfon).

Mae’r gemau diweddar rhwng y timau wedi bod yn llawn goliau gyda chyfartaledd o bum gôl wedi ei sgorio yn y saith ornest diwethaf.

Bydd rhaid i Gaernarfon fod yn wyliadwrus o brif sgoriwr Pen-y-bont a phrif gyfrannwr goliau’r gynghrair, James Crole, gan iddo gyfrannu at chwe gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (sgorio tair a chreu tair).

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ͏❌✅➖✅✅

Caernarfon: ✅❌❌✅➖

Chwech Isaf

Cei Connah (8fed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sul – 14:30

Bydd hi’n ornest dyngedfennol ar Gae y Castell brynhawn Sul yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle gan y byddai pwynt yn ddigon i’r Barri selio’r 7fed safle.

Mae pum pwynt yn gwahanu’r ddau dîm sy’n golygu bod angen i Gei Connah guro’r Barri ac Aberystwyth yn eu dwy gêm olaf os am ddringo uwchben y Dreigiau.

Pe bae’r Barri’n colli ddydd Sul yna byddai angen i dîm Andy Legg guro Llansawel yn eu gêm olaf os am sicrhau eu bod yn gorffen uwchben Cei Connah.

Enillodd Y Barri eu dwy gêm yn erbyn Cei Connah yn rhan gynta’r tymor, ond y Nomadiaid oedd yn fuddugol yn y frwydr ddiwethaf rhwng y timau ym mis Chwefror (Barr 0-2 Cei).

Byddai gorffen yn y 7fed safle yn gwarantu lle’r clwb yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, oddi cartref yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn 4ydd yn y tabl (Caernarfon ar hyn o bryd).

Roedd Cei Connah wedi ennill chwe gêm yn olynol cyn eu colled annisgwyl oddi cartref yn Llansawel bythefnos yn ôl (Llan 1-0 Cei).

Er eu safle addawol, dyw’r Barri m’ond wedi cadw un llechen lân yn eu 23 gêm ddiwethaf (Llan 0-0 Barr), a dim ond dwy lechen lân yn eu 35 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ͏ ✅✅✅✅❌

Y Barri: ❌✅✅❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Llun: CPD Pen-y-bont

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.