Cymru'n colli yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad
Colli fu hanes tîm rygbi menywod Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad o 42-12 yn erbyn Ffrainc yn Brive ddydd Sadwrn.
Dyma'r drydedd gêm yn olynol iddyn nhw golli yn y bencampwriaeth eleni.
Roedd prif hyfforddwr Cymru Sean Lynn wedi dweud cyn y gêm bod ei dîm yn “barod i herio” Ffrainc ar ôl “dysgu gwersi” yn dilyn eu colled o 12-67 yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd yn eu gêm ddiwethaf.
Fe gollodd Cymru gêm gynta’r gystadleuaeth yn yr Alban o 24-11.
Fe wnaeth Ffrainc guro'r Alban ac Iwerddon yn eu gemau agoriadol.
Nid odd maswr Cymru Lleucu George yn rhan o’r tîm yn dilyn anaf i’w phigwrn. Roedd hyn yn golygu bod y canolwr Kayleigh Powell yn cymryd ei lle.
Roedd Courtney Keight wedi gadael y fainc hefyd gan ymuno gyda Hannah Jones yng nghanol cae.
Er i Gymru gael digon o'r bêl yn y munudau agoriadol roedd camsyniadau yn rhoi cyfleoedd i Ffrainc ymosod.
Daeth cais cyntaf Ffrainc ar ôl pedair munud wrth i'r asgellwr Emilie Boulard ddal cic letraws i groesi. Fe drosodd y cefnwr Morgane Bourgeois. Ffrainc 7-0 Cymru.
Ond fe darodd Cymru yn ôl ar ôl naw munud yn dilyn cic gosb am dacl uchel gan Ffrainc.
Fe hyrddiodd blaenwyr Cymru am y llinell gais o lein gyda'r blaenasgellwr Kate Williams yn croesi'r gwyngalch. Ffrainc 7-5 Cymru.
Fe aeth Ffrainc ymhellach ar y blaen ar ôl 15 munud pan groesodd Boulard am ei hail gais yn dilyn chwarae arweiniol grymus gan y blaenwyr. Fe drosodd Bourgeois yn gelfydd o'r ystlys unwaith eto. Ffrainc 14-5 Cymru.
Yn hytrach na digalonni fe ddaliodd Cymru ati a daeth eu haeddiant ar ôl 22 munud gydag ail gais oedd yn debyg i'r un cyntaf ond yr ail reng Gwen Crabb oedd yn dathlu'r cais y tro hwn. Fe drosodd y mewnwr Keira Bevan i ddod â Chymru o fewn dau bwynt i Ffrainc. Ffrainc 14-12 Cymru.
Bu'n rhaid i Gymru amddiffyn sawl ymosodiad gan Ffrainc yn y munudau cyn yr egwyl. Er i Ffrainc groesi'r llinell gais ar ôl 35 ond fe gollodd y prop Rose Bernadou y bêl dros y llinell gais.
Ond d'oedd Cymru ddim yn gallu gwrthsefyll grym blaenwyr Ffrainc wrth i'r bachwr Mano Bigot groesi yn dilyn lein gyda symudiad olaf yr hanner. Fe drosodd Bourgeois unwaith eto.
Y sgôr ar yr egwyl: Ffrainc 21-12 Cymru.
Halen yn y briw
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn y modd gwaethaf posib i Gymru wrth i rym blaenwyr Ffrainc amlygu ei hun eto gyda'r ail-reng Manaé Feleu yn sgorio. Fe drosodd Bourgeois am y pedwerydd tro. Ffrainc 28-12 Cymru.
Daeth siom i Gymru ar ôl 50 munud pan groesodd y canolwr Courtney Keight ond chafodd y cais ei ddiddymu am gamsefyll yn y lein gan flaenwyr Cymru.
Daeth cais cosb i Ffrainc wedi 67 munud i adlewyrchu eu goruchafiaeth ac fe dderbyniodd blaenwr Cymru Maisie Davies gerdyn melyn i rhwbio halen yn y briw. Ffrainc 35-12 Cymru.
Bu'n rhaid i Gymru amddiffyn rhag ton ar ôl ton o ymosodiadau gan Ffrainc ym munudau olaf y gêm.
Er yr ymdrech gan amddiffynwyr Ffrainc nid oedd modd gwrthsefyll cais arall gan Ffrainc gan y blaenwr Lea Champon. Fe drosodd Bourgeois eto.
Er i Gymru golli unwaith eto roedd digon o chwarae calonogol yn yr hanner cyntaf i godi gobeithion.
Y sgôr terfynol: Ffrainc 42-12 Cymru.
Llun: Asiantaeth Huw Evans