Newyddion S4C

'Gwahanol i Bort Talbot’: ASau yn pleidleisio i achub gwaith dur Scunthorpe

Keir Starmer a Port Talbot

Mae ymyrraeth y llywodraeth i achub safle dur Scunthorpe yn wahanol i achos Port Talbot, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth y DU.

Dywedodd y gweinidog diwydiant Sarah Jones bod cwmni preifat yn barod i fuddsoddi ym Mhort Talbot tra nad oedd hynny yn wir yn achos gwaith dur British Steel yn Scunthorpe.

Fe wnaeth aelodau Tŷ’r Cyffredin gwrdd ddydd Sadwrn a phleidleisio i achub safle British Steel y dref ddiwydiannol, wrth i ASau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol holi pam na chafodd hynny ei wneud yn achos Tata Steel ym Mhort Talbot.

Dyma’r tro cyntaf ers 1982 i ASau gael eu galw nôl ar ddydd Sadwrn. 

Bydd y ddeddf yn caniatáu i’r llywodraeth "gymryd rheolaeth" o’r safle Swydd Lincoln ac atal ei pherchennog rhag cau ei ffwrneisi chwyth.

Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer bod angen pasio deddfwriaeth frys mewn un diwrnod i warchod y gwaith dur yn Scunthorpe gan fod ei dyfodol “yn y fantol”.

Roedd Jingye, perchennog Tsieineaidd y busnes, yn bwriadu cau'r ffwrneisi chwyth a newid i ffurf wyrddach o gynhyrchu dur, fel sydd wedi digwydd ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot yn barod.

'Yr un rhesymau'

Fe holodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts dydd Sadwrn pan nad oedd yr un camau wedi eu cymryd yn achos Port Talbot.

“Lle’r oedd y llywodraeth hon pan oedd y ffwrneisi chwyth olaf ym Mhort Talbot yn cau gan golli 2800 o swyddi?” gofynnodd.

“Roedd Plaid Cymru yn dadlau am yr un rhesymau yn union, sy’n cael eu dweud yn yr achos yma, am wladoli Tata.

“Ond dywedodd y llywodraeth bryd hynny mai breuddwyd gwrach oedd achub y swyddi ym Mhort Talbot. 

“Sut mae Llafur yn mynd i ddal eu pennau i fyny rŵan yn ne Cymru a dweud, ‘oedd roedd yn werth ei wneud ar gyfer pobl Scunthorpe’?

“Ond pan ddigwyddodd ym Mhort Talbot, nid oedd y swyddi rheini yn cyfri.”

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio ag ymyrryd i amddiffyn gwaith dur Port Talbot.

Dywedodd David Chadwick, llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan: “Ble'r oedd y raddfa hon o weithredu pan gyhoeddwyd bod miloedd o swyddi’n cael eu colli ym Mhort Talbot ychydig fisoedd yn ôl?

“Er bod camau i achub swyddi yn Scunthorpe i’w croesawu, pam bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu bod cymunedau yn Lloegr yn werth ymladd drostynt a’r rhai yng Nghymru ddim?"

'Bargen'

Dywedodd y gweinidog diwydiant Sarah Jones bod sefyllfa Port Talbot a Scunthorpe yn wahanol.

“Pan ddaethom i mewn i’r Llywodraeth, roedd bargen gyda Tata Steel ym Mhort Talbot,” meddai.

“Fe wnaethon ni gytuno i fargen lawer gwell mewn 10 wythnos, ond roedd yna gwmni preifat a oedd yn fodlon buddsoddi, sydd bellach yn buddsoddi.

“Rydym wedi cynnal 5,000 o swyddi ar y safle a bydd dyfodol i’r safle hwnnw gyda ffwrnais arc trydan. 

“Does dim cytundeb o’r fath ar y bwrdd ar hyn o bryd (yn Scunthorpe), a dyna beth sy’n wahanol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.