Newyddion S4C

‘Hunllef’ i deulu dyn a laddwyd gan glaf seiciatrig wrth i’r ymosodwr gael ei ryddhau

12/04/2025
Lewis Stone
Lewis Stone

Mae teulu dyn gafodd ei ladd gan glaf seiciatrig wrth fynd â’i gi am dro wedi dweud mai “dechrau ein hunllef yn unig” oedd y digwyddiad gan fod ei ymosodwr yn cael mynd allan ar ymweliadau.

Roedd Lewis Stone, cigydd wedi ymddeol, ar wyliau yn Borth, Ceredigion, pan gafodd ei drywanu dro ar ôl tro gan David Fleet yn 2019.

Bu farw o’i anafiadau dri mis yn ddiweddarach.

Roedd Fleet, sy'n dioddef o sgitsoffrenia, wedi cael ei ryddhau o uned seiciatrig ddiogel dim ond 10 diwrnod cyn y digwyddiad.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae teulu Mr Stone wedi cael gwybod y bydd Fleet yn cael gadael dros nos o'r uned ddiogel lle mae wedi'i gadw, er bod ganddyn nhw gwestiynau o hyd am y gofal seiciatrig a gafodd cyn yr ymosodiad.

Galwodd Vicki Lindsay, llysferch Mr Stone, ar y GIG i gyhoeddi ei adroddiadau mewnol fel y gall y teulu ddeall pam y gwnaed y penderfyniadau a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.

Plediodd Fleet, a oedd yn 21 oed ar y pryd, yn euog i ddynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig ac fe gafodd ei gadw am gyfnod amhenodol mewn uned seiciatrig ddiogel.

Cafodd teulu Mr Stone wybod ddydd Iau y byddai'n cael ei ryddhau dros nos.

Yn ystod y ddedfryd, clywodd Llys y Goron Abertawe bod Fleet yn clywed lleisiau yn ei ben yn dweud eu bod yn mynd i'w ladd a chymryd drosodd ei ymennydd pe na bai'n ymosod ar rywun.

Roedd Fleet wedi’i gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ym mis Hydref 2018 ond cafodd ei anfon adref 10 diwrnod cyn y digwyddiad, er i’w fam godi pryderon am ei ryddhau.

'Trin fel baw'

Dywedodd Ms Lindsay: “Roeddwn i’n meddwl mai Chwefror 28 2019, pan ymosodwyd ar Lewis, a’r tri mis cyn iddo farw o’i anafiadau, oedd y cyfnod gwaethaf yn ein bywydau.

“Ychydig a wyddwn mai dim ond dechrau ein hunllef oedd hynny. Fel dioddefwyr, rydym wedi cael ein trin yn warthus.

“Dydyn ni dal ddim yn gwybod pam y cafodd y llofrudd ei ryddhau 10 diwrnod cyn iddo ymosod ar Lewis, pwy a wnaeth y penderfyniad hwnnw a pham, a phwy sy’n mynd i gael ei ddal yn atebol amdano.

“Rydyn ni wedi cael ein cadw’n gyfan gwbl yn y tywyllwch a’n trin fel baw ar waelod esgidiau’r GIG.

“Ond fel pe bai pob un ddim yn ddigon drwg, rydyn ni nawr yn byw gan wybod bod y llofrudd bellach yn cael mynd allan gyda'r nos ac yn siŵr o gael ei ryddhau'n barhaol yn fuan.

“Pa fath o wlad yw hon yr ydym yn byw ynddi lle mae dioddefwyr yn cael eu trin fel hyn?

“Yn enw Lewis, ni fydd ein teulu’n rhoi’r gorau i ymladd nes i ni gael cyfiawnder iddo a’r rhai sy’n gyfrifol am ei farwolaeth yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Ychwanegodd nad oedd hi wedi cael sioc pan gafodd Fleet ei rhyddhau dros nos. 

“Rwy’n gobeithio na fydd fy ofnau’n wir a'i fod yn ei wneud eto,” meddai.

'Gresynu'

Dywedodd cyfarwyddwr nyrsio, ansawdd a phrofiad cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Sharon Daniel na fydden nhw'n cyhoeddi adroddiadau.

Dywedodd: “Daeth y Ddyletswydd Gonestrwydd ar gyfer cleifion i rym yng Nghymru ym mis Ebrill 2023. Ar adeg y digwyddiad a’r pryder hwn, fe wnaethom gyflawni ein dyletswyddau i fod yn agored.

 “Os bydd digwyddiadau difrifol, mae gennym brosesau cadarn ar waith ar gyfer adolygu’n fewnol, nodi unrhyw broblemau, a lle bo’n briodol paratoi cynllun gwella i atal digwyddiad o’r fath yn y dyfodol.

“Rydym yn gresynu at ddigwyddiadau o’r fath ac rydym bob amser yn ceisio dysgu oddi wrthynt.”

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, sy’n gwneud y penderfyniad i ryddhau pobl sy’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Rydym yn deall y bydd y penderfyniad hwn yn anodd i’r teulu Stone, ac mae ein meddyliau gyda nhw.

“Dim ond ar ôl asesiad risg trylwyr a chyda mesurau diogelwch llym yn eu lle y gwneir unrhyw benderfyniad i gymeradwyo mynediad i’r gymuned.”

Prif lun: Llun teulu Lewis Stone

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.