Newyddion S4C

Carcharu dynion wnaeth ffoi rhag yr heddlu i Gymru ar gefn motobeic

12/04/2025
Jake Fagan a Connor Mitchell
Jake Fagan a Connor Mitchell

Mae dau ddyn wedi eu carcharu wedi iddyn nhw ffoi o Loegr i Gymru ar fotobeic wrth i’r heddlu geisio eu dal.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymdrech 90 munud i ddal y dynion yn “anhygoel o beryglus” ac wedi croesi ffiniau tair ardal heddlu wahanol.

Dechreuodd yr ymdrech i ddal y dynion wedi i fodurwraig ddweud ei bod wedi ei bygwth â chyllell yn Ellesmere Port, Swydd Gaer.

Roedd y beiciwr modur Jake Fagan, 29 wedi teithio ar gyflymder o 90mya gyda Connor Mitchell, 29 oed, ar sedd y teithiwr.

Dechreuodd y daith yn Ellesmere Port, drwy Swydd Gaer ac i mewn i ardal Heddlu Gogledd Cymru cyn dychwelyd i Swydd Gaer.

Fe aeth yr heddlu traffig ac arfog ar eu holau gyda hofrennydd heddlu yn arwain y ffordd.

Fe deithiodd Jake Fagan y ffordd anghywir i fyny un o slipffyrdd yr M56 cyn i’r heddlu eu dal yn y pen draw ynghanol dinas Caer gan ddefnyddio dyfeisiau trywanu olwynion.

Ddydd Iau fe gafodd Jake Fagan ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caer i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.

Roedd wedi cyfaddef i yrru’n beryglus, ymosod, bod â chyllell yn ei feddiant, bod â chocên yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i ddosbarthu, trin nwyddau wedi’u dwyn, a difrod troseddol.

Cafodd Mitchell, o Farndale Drive, Elton, Caer, ei garcharu am dair blynedd a hanner ar ôl iddo bledio’n euog i fod â chyllell yn ei feddiant, a bod â chocên yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i ddosbarthu.

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Demi Brownrigg: “Rwy’n croesawu’r dedfrydau a roddwyd i Fagan a Mitchell nad oedd yn amlwg wedi dangos unrhyw ystyriaeth i ddiogelwch aelodau’r cyhoedd drwy arwain yr heddlu ar daith anhygoel o beryglus.

“Roedd yr ymdrech i’w dal wedi mynd i mewn i ardal tri heddlu ar wahân. Ond diolch i waith ein swyddogion wrth weithio gyda'n gilydd fe lwyddon ni i ddal gafael ar y troseddwyr yn y pen draw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.