Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau dydd Sadwrn
Dwy rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob pen o’r gynghrair.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol.
Fe wnaethon nhw ddathlu gyda buddugoliaeth yn erbyn Y Bala nos Wener o 2-1. Cyfartal oedd y sgôr rhnwg Met Caerdydd a Hwlffordd o 1-1.
Mae Pen-y-bont wedi selio’r ail safle am y tro cyntaf erioed, a pe bae’r Seintiau’n llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf yna mi fydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop.
Yn y Chwech Isaf, gall y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle ddod i’w uchafbwynt ddydd Sul pan fydd Cei Connah yn croesawu’r Barri.
Ac ar waelod y tabl, mae’r frwydr bron ar ben i’r Drenewydd gan fod y Robiniaid angen ennill eu dwy gêm olaf a gobeithio bod Llansawel yn colli eu dwy gêm olaf os am osgoi’r cwymp.
CHWECH ISAF
Y Drenewydd (11eg) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)
Y Drenewydd ac Aberystwyth yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers y tymor cyntaf un yn 1992/93, ond erbyn prynhawn Sadwrn fe all cyfnod y ddau glwb yn yr haen uchaf ddod i derfyn.
Mae Aberystwyth eisoes yn sicr o orffen ar waelod y tabl a syrthio i’r ail haen ar ôl colli 10 o’u 11 gêm ddiwethaf.
Ac mae brwydr Y Drenewydd bron ar ben hefyd, gan fod angen i’r Robiniaid ennill eu dwy gêm olaf i osgoi’r cwymp a chroesi popeth bod Llansawel yn colli eu dwy gêm olaf.
Gemau’n weddill yn y frwydr i osgoi’r cwymp:
Y Drenewydd: Aber (c), Ffl (oc)
Llansawel: Ffl (c), Barr (oc)
Mae’n dasg anferthol i’r Drenewydd sydd m’ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf (Aber 0-1 Dre), a dyw’r Robiniaid heb ennill gartref ers mis Medi gan golli saith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny.
Ond mae’r Drenewydd wedi ennill saith o’u naw gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, a bydd rhaid i dîm Callum McKenzie fynd amdani ddydd Sadwrn, neu bydd eu cyfnod di-dor yn yr uwch gynghrair yn diweddu.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏ ✅➖➖❌❌
Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌
Llansawel (10fed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Beth bynnag ddaw o’r canlyniad yn y gêm gynnar rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth, mae Llansawel yn gwybod y byddai pwynt yn erbyn Y Fflint yn ddigon i gadarnhau eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Pe bae’r Drenewydd yn gollwng pwyntiau yn erbyn Aberystwyth yna bydd Llansawel yn ddiogel, ond mae tynged tîm Andy Dyer yn nwylo eu hunain ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn Cei Connah bythefnos yn ôl.
Am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad mae Llansawel wedi ennill dwy gêm gynghrair yn olynol gan gadw dwy lechen lân yn y gemau rheiny (Aber 0-1 Llan, Llan 1-0 Cei).
Mae’r Fflint yn ddiogel am dymor arall ar ôl colli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 1) a byddai buddugoliaeth i’r Sidanwyr ddydd Sadwrn yn golygu eu bod nhw’n ennill tair gêm yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Awst 2021.
Dyw’r Fflint heb golli dim un o’u tair gêm yn erbyn Llansawel y tymor hwn ac mae’r capten Harry Owen wedi sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau, yn cynnwys hatric o beniadau ar Gae y Castell ym mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌➖✅✅
Y Fflint: ͏✅➖❌✅✅