Newyddion S4C

'Rhaid i Rwsia symud': Cennad yr UDA yn cyfarfod â Vladimir Putin

12/04/2025
Witkoff a Putin

Mae cennad yr Unol Daleithiau, Steve Witkoff, wedi cyfarfod Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn St Petersburg wrth i Donald Trump annog Rwsia i “ddechrau symud” ar gadoediad yn Wcráin.

Dywedodd y Kremlin fod y cyfarfod wedi para am fwy na phedair awr a'i fod yn canolbwyntio ar "agweddau ar setliad Wcrain". 

Disgrifiwyd y trafodaethau, y trydydd rhwng Witkoff â Putin eleni, gan y llysgennad arbennig Kirill Dmitriev fel rhai "cynhyrchiol".

Mae Mr Trump wedi mynegi rhwystredigaeth gyda Putin ynglŷn â’r trafodaethau. 

Dywedodd Mr Trump ar y cyfryngau cymdeithasol: "Mae'n rhaid i Rwsia symud. Mae gormod o bobl yn marw, miloedd yr wythnos, mewn rhyfel ofnadwy a disynnwyr."

'Camliwio'

Daw wrth i lysgennad Trump yn Wcráin, Keith Kellogg, wadu iddo awgrymu y gallai’r wlad gael ei rhannu.

Dywedodd The Times, yn ystod cyfweliad â’r papur, fod Kellogg wedi cynnig y gallai milwyr Prydain a Ffrainc fabwysiadu parthau rheolaeth, y tu allan i orllewin yr Wcráin.

Fe awgrymodd y gallai byddin Rwsia wedyn aros yn nwyrain Wcrain. “Fe allech chi bron â gwneud iddo edrych fel yr hyn a ddigwyddodd gyda Berlin ar ôl yr Ail Ryfel Byd”, dyfynnodd y papur iddo ddweud.

Yn ddiweddarach dywedodd Kellogg ar y cyfryngau cymdeithasol bod yr erthygl wedi “camliwio” yr hyn a ddywedodd. “Roeddwn i’n siarad am rym gwytnwch ôl-ymadawiad i gefnogi sofraniaeth yr Wcrain. Doeddwn i ddim yn cyfeirio at rannu Wcráin.”

Yn gynharach ddydd Gwener, cytunodd cenhedloedd Ewropeaidd €21bn £ 18bn) mewn cymorth milwrol i Kyiv.

Yn y digwyddiad, dywedodd gweinidogion amddiffyn Ewrop nad oedden nhw'n gweld unrhyw arwydd o ddiwedd i'r rhyfel.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.