Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn galw am atal cynllun iaith ysgolion Gwynedd

12/04/2025
Darren Millar

Mae angen i lywodraeth Cymru "ymyrryd ar frys" yng nghynlluniau cyngor Gwynedd i leihau'r defnydd o'r Saesneg yn ei ysgolion, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Darren Millar.

O dan gynigion Cyngor Gwynedd, byddai o leiaf 70% o'r cwricwlwm yn cael ei addysgu yn Gymraeg, gyda ffrydiau cyfrwng Saesneg yn dod i ben mewn ysgolion uwchradd.

Yn gyffredinol roedd cefnogaeth i'r cynlluniau mewn cyfarfod craffu ddydd Iau, ond dywedodd Mr Millar fod hyn yn "sylfaenol anghywir", ac fe awgrymodd hyd yn oed y dylai llywodraeth y DU gymryd rhan.

Dywedodd llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio mewn ysgolion.

Wrth ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,Lynne Neagle, dywedodd Millar fod y cynnig yn golygu"byddai addysg cyfrwng Saesneg yn dod i ben yn gyfan gwbl beth bynnag fo barn rhieni neu ddisgyblion neu les gorau dysgwyr”.

Dywedodd fod cael gwared ar yr opsiwn i blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg “yn fater sy’n peri cryn bryder sy’n peri’r risg o ddieithrio a rhannu cymunedau yng nghymru a thanseilio cefnogaeth ehangach i’r Gymraeg”.

Galwodd Millar ar Lynne Neagle i "ymyrryd ar frys".

"Os bydd llywodraeth Cymru yn methu ag amddiffyn hawliau dinasyddion, rhaid i lywodraeth y DU gamu i mewn,” meddai.

Siomedig

Wrth ymateb i wrthwynebiad Millar, dywedodd deiliad portffolio addysg Gwynedd, y cynghorydd Dewi Jones, fod ei safiad yn "siomedig" ac yn "anffodus iawn".

Dywedodd Mr Jones: “Roeddwn i’n meddwl bod y dyddiau o ddefnyddio’r Gymraeg fel pêl-droed gwleidyddol i sgorio pwyntiau ar ben.

“Ond mae’n siomedig iawn clywed y sylwadau hynny, a hoffwn ddatgan hynny’n gyhoeddus.”

Ychwanegodd Mr Millar: “Rwy’n cefnogi'n gryf nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae ehangu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o hynny. 

“Mae Cymru yn genedl ddwyieithog falch gyda dwy iaith swyddogol ac mae’n rhaid parchu hawliau ein holl ddinasyddion sy’n siarad Cymraeg a Saesneg.”

“Mae’n amser i lywodraeth Cymru ymyrryd a sefyll dros y lleiafrif Saesneg eu hiaith yng Ngwynedd, yn union fel y dylai amddiffyn y lleiafrif sy’n siarad Cymraeg mewn rhannau eraill o Gymru.

Yn ôl cyngor Gwynedd, byddai'r polisi newydd yn "dileu dwyieithrwydd a dysgu dwyieithog" ac yn "datgan yn glir mai'r Gymraeg fyddai prif iaith y dysgu".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cynllunio ysgolion ar ôl ystyried ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac ymgynghori â chymuned yr ysgol a dewis y llwybr mwyaf addas ar gyfer ysgolion unigol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.