Newyddion S4C

Llandysul: Arestio dyn ar ôl ymosodiad honedig

12/04/2025
Llandysul

Mae’r heddlu yn apelio am lygaid dystion ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau i’w wyneb mewn ymosodiad honedig ym Mhontyweli, Llandysul.

Mae dyn wedi ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn y dref ar ffin Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar ddydd Llun, Mawrth 31 yn arhosfan fysiau Ffordd Pencader rhwng 2.45pm a 2.55pm, medden nhw.

Cafodd dyn ei daro gyda pholyn metal a’i wthio i’r llawr gan achosi anafiadau i’w wyneb a’i gorff, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd car Peugeot du ei weld yn yr ardal ar y pryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu cyfeirnod 25*264222.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.