Cymru wedi 'dysgu gwersi' ac yn 'barod i herio' Ffrainc
Cymru wedi 'dysgu gwersi' ac yn 'barod i herio' Ffrainc
Mae prif hyfforddwr Cymru wedi dweud bod tîm y menywod yn “barod i herio” eu gwrthwynebwyr yn Ffrainc ddydd Sadwrn ar ôl “dysgu gwersi” yn dilyn eu colled yn erbyn Lloegr.
Fe gollodd Cymru o 12-67 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn eu gêm ddiwethaf.
Ond mae Sean Lynn yn dweud eu bod wedi dysgu gwersi hollbwysig all fod o gymorth yn ystod eu gêm yn erbyn Ffrainc yn Stade Amédée-Domenech yn Brive.
“Fe wnaethon nhw (Lloegr) fynd â ni y tu hwnt i’r hyn ‘da ni’n gyfforddus gyda - ac fe ‘nath hynny wneud i mi sylweddoli bod yn rhaid i mi wneud yr un peth gyda’r chwaraewyr yn ystod sesiynau hyfforddi,” meddai Lynn.
“Da ni wedi bod yn ceisio hyfforddi yn ddwys… Y nod yw sicrhau ein bod yn gwella ym mhob gêm.
“Da ni’n gwybod ein bod ni’n gallu gwneud yn well… a ‘da ni’n benderfynol o brofi hyn yn erbyn tîm Ffrengig o’r safon uchaf.
“Mae'n rhaid i ni herio ein hunain,” ychwanegodd.
'Popeth i'w ennill'
Nod y crysau cochion ddydd Sadwrn fydd rhoi Ffrainc “dan bwysau,” esboniodd Lynn.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i Gymru ennill yn erbyn Ffrainc ers 2016 pe bai’r cochion yn fuddugol.
Roedd capten Cymru, Hannah Jones yn rhan o’r tîm buddugol yn erbyn Ffrainc ar y pryd, gan ddweud bod ei thîm yn ceisio gwneud “gwelliannau bach” cyn y gêm.
“Unwaith eto, sgynnon ni ddim byd i’w colli a phopeth i’w ennill,” meddai.
“Os allwn ni ddechrau a pharhau fel nathon ni yn ystod y 10 munud gyntaf yn erbyn Lloegr efallai neith y dorf troi.”
Ni fydd maswr Cymru Lleucu George yn rhan o’r tîm i herio Ffrainc yn dilyn anaf i’w phigwrn. Mae hyn yn golygu y bydd y canolwr Kayleigh Powell yn cymryd ei lle.
Fe fydd Courtney Keight yn gadael y fainc hefyd gan ymuno gyda Hannah Jones yng nghanol cae.
Dyma’r tîm llawn fydd yn wynebu Ffrainc yn Stade Amédée-Domenech:
15 Jasmine Joyce, 14 Lisa Neumann, 13 Hannah Jones (C), Courtney Keight, 11 Carys Cox, 10 Kayleigh Powell, 9 Keira Bevan, 1 Gwenllian Pyrs, 2 Carys Phillips, 3 Jenni Scoble, 4 Abbie Fleming, 5 Gwen Crabb, 6 Kate Williams, 7 Bethan Lewis, 8 Georgia Evans.
Eilyddion:
16 Kelsey Jones, 17 Maisie Davies, 18 Donna Rose, 19 Natalia John, 20 Alaw Pyrs, 21 Bryonie King, 22 Sian Jones, 22 Nel Metcalfe.