
'Angen i bobl beidio bod â rhagfarn am bobl ag awtistiaeth'
'Angen i bobl beidio bod â rhagfarn am bobl ag awtistiaeth'
Dylai cyflogwyr fod yn fwy ystyrlon o anghenion pobl ag awtistiaeth a dathlu eu "cyfraniadau gwerthfawr iawn", yn ôl y gantores a'r ddarlledwraig Caryl Parry Jones.
Yn ddwy a hanner oed, fe wnaeth Moc Isaac, mab Caryl a'i gŵr Myfyr, stopio siarad.
Dywedodd seicolegydd ar y pryd mai “trawma” oedd y rheswm amdano, yn dilyn genedigaeth ei chwaer fach, Greta.
Fe gymerodd wyth mlynedd arall i Moc gael diagnosis o awtistiaeth.
Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae tua 1% i boblogaeth y DU yn byw gydag awtistiaeth.
Nid oes data cynhwysfawr ynglŷn â'r ganran o bobl sydd wedi derbyn diagnosis yng Nghymru, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y nifer o blant ac oedolion gyda chyflyrau niwroddatblygiadol ar gynnydd.

Yn 2022-23, adroddwyd bod gan 2.2% o ddisgyblion yng Nghymru ASD fel Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Anghenion Addysgol Arbennig.
Yn ogystal, cafodd dros 5,140 o atgyfeiriadau eu gwneud ar gyfer oedolion i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.
'Gwahanol i bawb'
A hithau’n Fis Derbyn Awstitiaeth Cenedlaethol, mae Moc a’i fam wedi rhannu eu profiadau gyda Newyddion S4C.
Yn blentyn, cafodd Moc ddiagnosis o fod â high functioning autism - oedd yn golygu ei fod â'r gallu i gwblhau tasgau a byw bywyd annibynnol yn gystal neu'n well na unrhyw un, ond yn wynebu heriau wrth gyfathrebu a chymdeithasu.
Yn ddiweddarach, mae'r diagnosis wedi newid i fod dan ymbarél Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig (ASD).
Nawr yn 32 oed ac yn byw yn y Bontfaen, sut mae ei bersbectif ar y cyflwr wedi newid?
“Ma awtistiaeth yn wahanol i bobl ar y sbectrwm,” meddai Moc, sydd
“Ni gyd yn mynd trwy awstisiaeth mewn ffordd gwahanol. Y peth mwya’ yw fi’n mynd yn overwhelmed yn hawdd iawn.
“Y ffordd gore i ddweud e yw bod y byd rownd fi yn teimlo’n drwm a bod yn teimlo fel bod popeth yn crymblo arna fi i gyd.
“Mae synau yn rili uchel, mewn lot o ffordd mae’n neud i fi deimlo’n anghyffyrddus. Dyna pam fi’n mynd allan yn gwisgo noise cancelling headphones, i helpu fi i ffocusio.
“Ond ni yn trio ein gorau o ddydd i ddydd, yn trio neud pawb yn gyfforddus.”

Ychwanegodd Caryl Parry Jones: “’Di o ddim yn fêl o gwbl, awtistiaeth. Mae’n dod a lot o bethau yn ei sgil o, fel anhwylderau'r meddwl.
“Mae Moc hefyd yn diodda’ o OCD yn wael, ac yn meddwl yn isel iawn ohono fo’i hun, sydd yn torri calon rhywun achos mae’n fachgen mor annwyl ac mor ddawnus.”
'Anodd' yn yr ysgol
Yn tyfu i fyny yn y 1990au, doedd pobl ddim mor ymwybodol a “goddefgar” o’r cyflwr na fyddai pobl yn 2025, yn ôl Caryl. Ac mae Moc yn dweud fod bywyd ysgol wedi bod yn “anodd” ar adegau.
“I fod yn onest, fi heb cael lot o ffrindie yn tyfu fyny,” medd Moc.
“Fi wedi cael cwpl o ffrindie a fi wedi cal pobl sy wedi bod yn neis. Ond hefyd rhan fwyaf o weithia oni yn cael fy gadal allan o bopeth, fel parti penblwydd neu chwarae yn yr iard yn yr ysgol ac oni byth yn gwybod pam.
“O’n i byth yn gwbo’ be oni’n neud oedd yn neud i pawb teimlo fel hyn rownd fi.”
Ychwanegodd Caryl: “Oedd o’n ofnadwy o dorcalonnus achos oedd y ffaith bod o’n cael ei esgymuno fel na - plant ydi plant a doedd pobol ddim yn deall Moc. Ac oedd o’n peri tristwch mawr achos oedd pawb yn cael dod i’w barti o.
“Oni’n deud wrth Moc diwrnod o’r blaen, taset ti yn yr ysgol rŵan, byswn i’n meddwl fysa pobol llawer mwy goddefgar tuag atat ti a tuag at y cyflwr, oherwydd bod pobol yn deall o fwy ag oherwydd bod llawer iawn mwy o bobol wedi cael diagnosis cynnar ac yn hwyr iawn.
“Dwi’n nabod pobol sydd wedi cael diagnosis yn eu 50au hyd yn oed ac mae hwnna’n galondid bod 'na fwy o ddealltwriaeth am y peth.
"Ond di o ddim yn Dustin Hoffman yn The Rain Man, a dwi'n meddwl dyna be oedd y ddelwedd am flynyddoedd. Mae o’n llawer mwy cymhleth na hynny.”
'Cyfraniad gwerthfawr iawn'
Er bod pethau wedi gwella, mae Moc wedi profi rhwystredigaeth wrth geisio canfod gweithle sydd yn ystyrlon o’i anghenion.
“Dwi’n meddwl bod o’n ofnadwy o bwysig bod pobol yn deall bod pobol sy’n byw efo awtistiaeth yn bobl. A dyna i gyd sydd angen deall i ddeud y gwir,” ychwanegodd Caryl.

“A fyswn i’n crefu ar i bobl beidio bod â rhagfarn tuag at bobl efo awtistiaeth achos mae ganddyn nhw lot fawr i gynnig. Mae o’n sbectrwm eang iawn, iawn ac mae gan bob un gradd o’r sbectrwm yna nodweddion gwahanol.
“Ond fyswn i’n ymbil a’r bobl yn y gweithle i neud yn siŵr os ydi rhywun yn byw efo awtistiaeth bod ganddyn nhw strategaethau mewn lle iddyn nhw gymryd pum munud yma ac yn y man. Ond mae’r cyfraniad mae pobol yn gallu gwneud yn werthfawr iawn iawn.
“Be sy’n bach yn rhwystredig ydi bod swyddi yn cael eu hysbysebu ac maen nhw’n deud, ‘da ni’n croesawu trawstoriad o wahanol bobl’, ond unwaith ti’n mynd am y swydd ma nhw’n dweud, ‘mae’n rhaid cael profiad.’ Felly mae’n gylch dieflig o’r rhan hynny.”
'Hapus i helpu eraill'
Ar ddiwrnod Derbyn Awtistiaeth ar ddechrau’r mis, fe wnaeth Moc rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu ei stori bersonol a siarad dros eraill oedd yn byw gyda’r un anawsterau.
Ac mae’n dweud ei fod yn hapus iddo gael ymateb mor bositif.
“Roedd 'na lot o resymau am wneud. Mae rhai pobl fi’n nabod sy wedi bod yn stryglo efo awtistiaeth nhw, ac wedi recently cael diagnosis awtsitaeth, yn dweud bod e wedi rhoi loads o relief off ysgwydd nhw.
“Oni ddim yn disgwyl i’r post neud yn dda iawn o gwbl ond mae pobl wedi bod yn rhannu fe lowds dros y we i gyd.
“Mae pawb ers hynny wedi dweud wrtha fi faint mae’r post yma wedi bod yn helpu mewn un ffordd a popeth arall. A fi just yn hapus bod o wedi helpu mewn un ffordd.”