Newyddion S4C

Annog pobl sy'n ymweld ag Eryri i ddefnyddio'r bys yn lle gyrru

12/04/2025
Parcio yn Eryri

Ar drothwy gwyliau’r Pasg, mae pobl yn cael eu hannog i ystyried defnyddio gwasanaethau bysys lleol yr ardal yn hytrach ‘na gyrru os yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri. 

Gyda disgwyl rhagor o dywydd braf dros y penwythnos, mae posibilrwydd y gallai’r rhanbarth fod yn hynod o brysur yn ystod y dyddiau nesaf. 

Mae trafferthion parcio wedi achosi cur pen i'r awdurdodau yn ystod cyfnodau prysur o'r gwanwyn a’r haf dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ymwelwyr heidio i'r ardal ers cyfnodau clo'r pandemig Coronafeirws.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cydweithio â Chyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn datblygu gwasanaeth all helpu i leddfu’r problemau parcio. 

Mae ymwelwyr bellach yn cael eu hannog i “fanteisio” ar wasanaeth Sherpa Eryri er mwyn ymweld â’r ardal mewn ffordd “gynaliadwy.” 

"Drwy leihau'r defnydd o geir yn Eryri a'r cyffiniau, mae'r gwasanaethau bws hyn yn cyfrannu at amddiffyn ein hamgylchedd gan gefnogi trefi a phentrefi lleol trwy ddod ag ymwelwyr yn syth at garreg eu drws,” meddai Angela Jones, Pennaeth Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

'Llwyddiant'

Fel rhan o gynlluniau diweddaraf i ddatblygu’r cynllun bysys, mae’r Sherpa ar y cyd gyda chynllun G23 a Fflecsi yng Ngwynedd wedi derbyn buddsoddiad o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru. 

Yn ôl Lee Robinson o Drafnidiaeth Cymru, mae mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaethau “gan ei fod yn cynnig cyfle i eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.” 

Ym mis Awst y llynedd defnyddiodd dros 72,000 o bobl wasanaeth Sherpa'r Wyddfa, sef cynnydd o dros 7% o gymharu ag Awst 2023. Mae nifer y teithwyr ar rwydwaith Sherpa wedi cynyddu 79% o gymharu â'r cyfnod cyn Covid.

Yn y cyfamser, gwelodd gwasanaeth T10 Traws Cymru sy'n cysylltu Bangor – Bethesda – Betws y Coed – Corwen gynnydd o 86% yn nifer y teithwyr ym mis Awst 2024 o gymharu ag Awst 2023, a gwelodd gynnydd o 44% yn nifer y teithwyr yn 24/25 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae llwyddiant gwasanaethau Sherpa'r Wyddfa a T10 dros yr haf yn newyddion gwych.  

“Mae'n dangos, o roi dewis dibynadwy i bobl yn lle'r car, yna gall wneud gwahaniaeth,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.