Teyrnged i dad a fu farw wedi gwrthdrawiad beic modur
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Llanofer yn Sir Fynwy wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel “tad ymroddedig.”
Bu farw Gordon Ashman, 68 oed o Groesyceiliog, Torfaen, yn y fan a’r lle yn dilyn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd Mr Ashman yn teithio ar ei feic modur ar y pryd.
Fe gafodd Heddlu Gwent wybod am wrthdrawiad ar ffordd yr A4042 rhwng Llanofer a ffordd y B4269 tuag at Bencroesoped am tua 14.50.
Mae ei deulu bellach wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud: “Roedd ei deulu yn hollbwysig iddo ac roedd yn dad ymroddedig i’w fab.”
Yn enedigol o Sebastopol yn Nhorfaen, roedd Mr Ashman wedi byw yng Nghroesyceiliog ers 38 o flynyddoedd.
Roedd yn drydanwr oedd yn “falch” o’i waith, ag yntau wedi gweithio i gwmni Little Mill Services ers 23 mlynedd.
“Roedd yn feiciwr brwd ers yn ifanc, yn benodol oherwydd dylanwad ei dad, ac roedd yn mwynhau’r awyr agored,” ychwanegodd y deyrnged.