Newyddion S4C

Rhybudd am effaith tariffau Trump wrth i economi’r DU dyfu mwy na’r disgwyl

11/04/2025
Donald Trump a Rachel Reeves

Fe dyfodd economi'r DU yn fwy na’r disgwyl ym mis Chwefror ond mae Banc Lloegr eisoes wedi rhybuddio y gallai tariffau Donald Trump gyfyngu ar unrhyw dwf pellach.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod economi'r DU wedi tyfu 0.5% gan roi hwb i'r Canghellor Rachel Reeves. Daw wedi iddyn nhw amcangyfrif nad oedd yr economi wedi tyfu o gwbl ym mis Ionawr.

Dywedodd cyfarwyddwr ystadegau economaidd yr ONS, Liz McKeown: “Tyfodd yr economi’n gryf ym mis Chwefror gyda thwf eang ar draws y diwydiannau gwasanaethau a gweithgynhyrchu.”

Ond mae Banc Lloegr eisoes wedi rhybuddio bod tariffau byd-eang Donald Trump, gan gynnwys tariff o 10% ar fewnforion o'r DU, yn debygol o gyfyngu ar dwf yn y dyfodol.

Dywedodd Sarah Breeden, dirprwy lywodraethwr sefydlogrwydd ariannol y Banc, ddydd Iau y byddai disgwyl i’r tariffau masnach “bwyso ar weithgaredd economaidd yn y DU”.

Ond nid yw’n gwbl glir eto a fydd yn arwain at ragor o chwyddiant gan orfodi Banc Lloegr i godi cyfraddau llog unwaith eto, meddai.

“O ystyried yr holl ansicrwydd, rwy’n meddwl ei bod yn rhy gynnar i wybod beth fydd yr effaith gyffredinol ar chwyddiant yn y DU, ac felly beth yw’r ymateb polisi ariannol priodol ar hyn o bryd,” meddai.

Mae tariffau Donald Trump werdi arwain at ragor o ansicrwydd ar y marchnadoedd ariannol ddydd Iau a bore Gwener.

Mae pris aur wedi codi i’r lefel uchaf erioed wrth i fuddsoddwyr ffoi o’r marchnadoedd ariannol oherwydd pryderon y bydd tariffau Donald Trump ar China yn arafu’r economi yn fyd-eang.

Dywedodd y Tŷ Gwyn ddydd Iau bod China bellach yn wynebu cyfradd tariff o 145%.

Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn dal i obeithio sicrhau bargen gyda Beijing, gan ddweud y byddent “yn gweithio allan rhywbeth sy’n dda iawn i’r ddwy wlad”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.