Newyddion S4C

'Camu i'r adwy': Llywodraeth y DU yn rhoi £350m i Wcráin

John Healy

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd pecyn cymorth milwrol gwerth £450 miliwn yn cael ei roi i Wcráin, gyda £350m yn dod gan y DU.

Bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey a’r gweinidog amddiffyn Boris Pistorious yn cyd-gadeirio Grŵp Cyswllt Amddiffyn Wcráin ddydd Gwener, a fydd yn cynnwys 50 o wledydd.

Roedd cyfarfodydd y grŵp cyswllt amddiffyn wedi cael eu cadeirio gan ysgrifennydd amddiffyn yr Unol Daleithiau nes i Donald Trump ddod yn arlywydd ym mis Ionawr.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd y pecyn cymorth milwrol yn helpu i roi hwb i luoedd arfog Wcráin wrth iddyn nhw barhau i amddiffyn yn erbyn ymosodiad Rwsia.

Mae’r pecyn werth £450 miliwn, ac mae £350 miliwn wedi dod gan y DU.

Mae cyllid pellach hefyd yn cael ei ddarparu gan Norwy drwy’r Gronfa Ryngwladol ar gyfer yr Wcráin, sy’n cael ei arwain gan y DU.

Bydd y pecyn yn cynnwys £160 miliwn o gyllid y DU i atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau ac offer y mae’r DU eisoes wedi’u darparu i’r Wcráin.

Yn ogystal, bydd yn cynnwys pecyn cymorth milwrol, gyda chyllid ar gyfer systemau radar, mwyngloddiau (mines) gwrth-danciau, a gwerth mwy na £250 miliwn o dronau.

'Arwain y frwydr'

Yn y cyfarfod ddydd Gwener, bydd Healy yn dweud: “Ni allwn roi heddwch yn y fantol drwy anghofio’r rhyfel, a dyna pam y bydd pecyn sylweddol heddiw yn hybu cefnogaeth i frwydr rheng flaen yr Wcrâin.”

Bydd yn pwysleisio mai eu gwaith fel gweinidogion amddiffyn ydi “rhoi’r hyn sydd ei angen i’r rhai sy’n ymladd”.

“Rhaid i ni gamu i’r adwy i atal ymddygiad ymosodol Rwsia trwy barhau i gryfhau amddiffynfeydd Wcráin.”

Bydd y Canghellor Rachel Reeves yn teithio i Wlad Pwyl ar gyfer trafodaethau yng nghyfarfod anffurfiol ECOFIN.

Yno, bydd yn cwrdd â gweinidogion cyllid yr UE ac yn galw am gydweithrediad dyfnach ar ariannu amddiffyn.

Dywedodd un o ffynonellau’r Trysorlys bod angen “amddiffyniad cenedlaethol cryf ar economi gref.”

“Dyma pam y bydd y Canghellor yn teithio i Warsaw” meddai, “fel ein bod yn darparu mwy o ddiogelwch economaidd a chenedlaethol mewn byd sydd wedi newid.”

Dywedodd y Lib Dems fod y pecyn cymorth yn “newid bach” ac yn galw ar Lywodraeth y DU i atal asedau Rwsia er mwyn rhoi mwy o gyllid i’r Wcráin.

“Er ein bod yn croesawu unrhyw gynnydd yn y gefnogaeth i’r Wcráin,” meddai llefarydd amddiffyn y blaid, Helen Maguire, “newid bach yw’r pecyn hwn o’i gymharu â’r hyn sydd ei angen i frwydro yn erbyn rhyfel barbaraidd Putin.”

“Rhaid i’r DU arwain y frwydr wrth atal asedau Rwsiaidd sy’n cael eu cadw yma ym Mhrydain”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.