
Pennod newydd yn hanes stadiwm San Helen

Pennod newydd yn hanes stadiwm San Helen
Stadiwm San Helen ger traeth Abertawe. Un o gonglfeini chwaraeon yng Nghymru ers dros 150 o flynyddoedd.
O gêm ryngwladol cyntaf Tîm Rygbi Cymru, Clwb Rygbi Abertawe yn curo Pencampwyr y Byd Awstralia a meithrin rhai o gewri’r gamp yng Nghymru - mae gan San Helen lle yn hanes chwaraeon y genedl.
Ond mae’n amser am bennod newydd yn hanes y stadiwm. Dyma fydd cartref newydd tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch erbyn y flwyddyn nesaf.
Felly mae trawsnewidiad am ddigwydd. A’r newidiadau i’r stadiwm yn achosi teimladau cymysg i gyn-fewnwr Abertawe, Cymru a’r Llewod Robert Jones.
“Mae’n drist mewn un ffordd achos wrth gwrs mae’r cae yn mynd i newid, mae 4G mynd i ddod mewn a fi’n gwybod pam. Ond oedd gan San Helen un o’r caeau gorau ym Mhrydain," meddai.
“Ond mae’n neis bod y Gweilch yn dod lawr fan hyn a taw fan hyn fydd cartref nhw yn y dyfodol.
"Mae hynny’n bwysig nid jyst i Glwb Rygbi Abertawe ond i’r ardal i gyd.”

Diwedd cyfnod fydd hi yn sicr yn y gêm ddydd sadwrn cyn i’r Gweilch symud i Fae Abertawe. Ac er y bydd Clwb Rygbi Abertawe yn dal i chwarae ar y cae hwn, mi fydd yn nodi diwedd ar chwarae ar wair hanesyddol San Helen
A’r atgofion o’r dyddiau a fu yn bwysig wrth ddechrau pennod newydd.
Ond nid ar chwarae bach mae adnewyddu un o stadiymau enwocaf rygbi Cymru. Y Gweilch fydd yn gorfod bod yn gyfrifol am hynny
Moderneiddio’r stadiwm fydd y nod, ond cynnal yr hyn sydd yno’n barod yn ogystal fydd nod Prif Weithredwr y Gweilch, Lance Bradley.
“Rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i fod yn dod i’r maes hanesyddol yma a gallu rhoi bywyd newydd iddo ac mi fydd Clwb Rygbi Abertawe yn rhan o hynny,” meddai.
“Mae angen iddo fod yn faes rygbi Cymreig hen ffasiwn ond gyda’r holl rinweddau modern y gallwn eu cynnig fel y cae 4G. Gobeithio y bydd y gorau o’r ddau fyd i bawb.”
Dychwelyd i ddyddiau da rygbi yn Abertawe yw gobaith Robert Jones a fu’n serennu ar yr union gae yn ystod ei yrfa.
“Fi wedi bod mewn gemau fan hyn pan oedd y banc yn llawn a fi jyst yn gobeithio bydd y cefnogwyr yn dod mas ac yn cefnogi’r tim," meddai.
“Gobeithio gallwn ni fynd nol i lle oedd Abertawe blynyddoedd yn ol, ond nawr wrth gwrs gyda chrys y Gweilch arno.”
Dechrau newydd i hen stadiwm, ond hanes y gorffennol yn sbardun newydd am lwyddiant i rygbi yn Abertawe.