
'Awyddus iawn': Llyfr cyntaf awdur gyda chyhoeddwr y tu hwnt i Gymru ar gael yn y Gymraeg hefyd
'Awyddus iawn': Llyfr cyntaf awdur gyda chyhoeddwr y tu hwnt i Gymru ar gael yn y Gymraeg hefyd
Mae awdur a darlunydd o Gymru wedi dweud ei fod yn “awyddus iawn” i’r llyfr cyntaf y mae wedi ei greu ar gyfer cyhoeddwr y tu hwnt i Gymru fod ar gael yn y Gymraeg.
Cafodd Sleep Tight, Disgusting Blob a Nos da Blob gan Huw Aaron, o Gaerdydd, ei gyhoeddi gan Puffin ar ddechrau mis Ebrill, ac mae hefyd wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg gan Y Lolfa.
Dyma'r tro cyntaf iddo gael cyfle i ysgrifennu a chyhoeddi llyfr gyda chyhoeddwr y tu hwnt i Gymru, meddai wrth Newyddion S4C.
Mae'r llyfr yn un o saith o lyfrau plant Saesneg y bydd yn ysgrifennu dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o gytundeb chwe ffigwr gyda Puffin, sy'n rhan o gwmni rhyngwladol Penguin Books.
“Wi’n gyffrous iawn bod Nos da Blob a Sleep Tight, Disgusting Blob allan o’r diwedd," meddai.
“Hwn yw’r llyfr cynta’ i fi cael y cyfle i wneud tu hwnt i Gymru rili.
“A o’n i’n ymwybodol iawn ac yn awyddus iawn iawn o’r dechre byse fe’n Gymraeg hefyd."

'Hyblyg'
Mae Huw Aaron wedi ysgrifennu neu ddarlunio dros 60 o lyfrau Cymraeg, gan gynnwys A am Anghenfil, Seren a Sparc, a Dwi eisiau bod yn Ddeinosor.
Fe enillodd wobrau Tir na n-Og a Gwobr Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn gyda'i wraig Luned yn 2023.
Ym mis Awst 2025 bydd ei nofel graffig Unfairies yn gweld golau dydd, gyda dau deitl arall yn dilyn yn 2026.
Dywedodd Huw ei fod yn meddwl am syniadau straeon yn y Gymraeg a'r Saesneg - a bod addasu neu gyfieithu er mwyn eu gwneud yn addas i lyfr plant yn Gymraeg yn gallu bod yn her wedi iddo gychwyn ysgrifennu yn Saesneg.
“Weithie’ mae syniade yn dod yn y Gymraeg a weithie’n Saesneg, weithie’ ma’ jyst rhyw dywediad yn dod yn yr un iaith a ma’n gweithio, ond dyw e ddim yn gweithio yn y llall," meddai.
“Felly, mae’n od wrth addasu neu gyfieithu, dyw e ddim yn rhywbeth dwi ‘di neud lot ohono fe.
“Ond, ma’n rhywbeth lle ‘da chi gorfod bod yn hyblyg dwi’n meddwl a ddim jyst trial bod yn slafaidd i be’ sy’ yn yr un iaith â’r un arall."
'Hollbwysig'
Yn rhan o lansiad y llyfr, mae Huw Aaron wedi bod yn darlunio clawr y llyfr ar ffenest siop Waterstones yng Nghaerdydd, gan ddenu sylw y cyhoedd ar y stryd y tu allan.
Mewn oes lle mae'r teledu a dyfeisiau digidol yn ennyn sylw llawer o blant a phobl ifanc, mae Huw yn pwysleisio pwysigrwydd llyfrau gair a llun i ennyn diddordeb plant mewn darllen.

“Ma’r llyfr yn rhywbeth gwahanol i’r digidol i’r teli lle ‘ma stwff yn digwydd draw fyna, ar y sgrîn, ar y peth," meddai.
“Ond gyda llyfr mae eu dychymyg nhw yn llenwi’r gap.
“Llyfre’ gair a llun, dyna ‘di dechreubwynt bywyd darllen a cyflwyno plant i llyfre’.
“Ac i fi, mae’n gyfnod mor bwysig, y cyfnod yna lle ‘da chi’n gallu, gyda plentyn, eistedd lawr, rhoi amser pob dydd, jyst chi’ch dau gyda y llyfr yma.
“A ‘da chi’n gallu bondio oherwydd ma’ llunie’ yna ond hefyd ma’r geirie’n cael eu perfformio gan yr un i’r llall, a da’ chi‘n rhannu’r profiad.
“I fi, dyna sy’n bwysicach na dim byd, yw’r cyfle yna - ma’ cyfle i riant a plentyn neu oedolyn a plentyn i uno fel’na."