Newyddion S4C

Dynes o Wynedd yn rhedeg Marathon Paris er cof am ei hewythr

Dynes o Wynedd yn rhedeg Marathon Paris er cof am ei hewythr

Bydd dynes o Wynedd yn rhedeg Marathon Paris ddydd Sul er cof am ei hewythr, ddwy flynedd union i'r penwythnos ers y bu farw.

Mae Meinir Fôn Hughes yn 29 oed ac yn wreiddiol o Garmel ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Bu farw ei hewythr, Dylan Edwin Jones, ddwy flynedd yn ôl ar ôl dioddef o broblemau gyda'i arennau ers yn blentyn ifanc. 

Derbyniodd Dylan aren gan ei dad yn ifanc ond bu'n rhaid iddo fynd yn ôl ar ddialysis yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth. 

"Oedd o wedi bod yn brwydro ar hyd ei oes" meddai Meinir wrth Newyddion S4C.

Bu Dylan yn wael iawn am gyfnod hir yn sgil hyn, gydag afiechydon eraill yn codi o ganlyniad i wendid ar ei arennau, a bu farw yn 53 oed. 

Image
Dylan
Roedd Dylan yn weithgar iawn wrth godi arian at elusen Ymchwil yr Arennau.

Ar ddiwrnod y marathon ym Mharis ddydd Sul, fe fydd hi'n ddwy flynedd union i'r penwythnos y bu farw Dylan, ac roedd Meinir yn teimlo'n gryf am redeg marathon er cof am ei hewythr ar y dyddiad yma. 

"Fydd hi’n ddwy flynedd  ers i fi golli fy yncl felly oedd o’n teimlo fel mai'r marathon yma oedd yr un rili," meddai. 

"Ma’n teimlo’n iawn os wbath achos ma’ marathon yn wbath ‘dwi ’di bod isio ei neud a wedyn pan nes i sylwi ar y dyddiad oedd hwn, o’dd o jyst yn teimlo fel mai hwnna di’r un rili.

"Gan bo’ fi wedi llwyddo i godi dipyn o arian dwi’n gobeithio neith hynna gario fi ac ia, fysa fo’n rwbath fysa Dylan yn prowd o felly neith o helpu fi dwi’n gobeithio."

Image
Dylan gyda Meinir yn ifanc
Dylan gyda Meinir yn ifanc.

Bydd Meinir yn codi arian at Ymchwil yr Arennau, elusen oedd yn agos iawn at galon Dylan.

"Oedd Dylan yn un oedd yn licio codi arian at yr elusen, oedd hi'n elusen bwysig iawn idda fo. Nath o sawl peth...ryw 10 mlynedd yn ôl, nath o seiclo o Lundain i Baris.

"Nath o ddisgyn yn wael iawn yn ystod cyfnod Covid ag er hynny, nath o dal neud taith gerdded er mwyn codi arian at Ymchwil yr Arennau so o'n i'n teimlo fel bod hyn yn rywbeth arbennig i neud o yn ei enw fo dal i fod a mae hi'n elusen bwysig i ni fel teulu."

'Yn enw Dylan'

Er ei bod yn nerfus ar drothwy'r ras, mae Meinir yn teimlo yn falch o fod yn rhedeg y ras yn enw ei hewythr.

"Dwi jest yn mynd i drio mwynhau fo gymaint â dwi'n gallu...oedd Dylan yn berson ofnadwy o bositif hyd yn oed pan oedd o ar ei waelaf.

"Oedd o dal i ddeud am yr heriau nesaf. Dwi'n cofio fo'n deud bod o'n mynd i ddringo Ben Nevis yn Yr Alban i godi arian ag oedd hyn tra o'dd o'n 'sbyty.

"Oedd o jest yn berson ofnadwy o positif a dwi’n falch bo’ fi’n gallu neud hyn yn ei enw fo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.