Cam ymlaen i bolisi newydd ar brif iaith addysg ysgolion Gwynedd
Cam ymlaen i bolisi newydd ar brif iaith addysg ysgolion Gwynedd
Mae Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi Cyngor Gwynedd wedi cefnogi polisi drafft newydd fyddai'n gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ysgolion y sir.
Byddai'r polisi yn gweld y Gymraeg yn dod yn brif gyfrwng addysg yn holl ysgolion Gwynedd.
Fe fydd y polisi drafft yn mynd drwy broses ymgynghori cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Mae'r awdurdod yn cynnal yr adolygiad mwyaf o'i bolisi addysg iaith Gymraeg mewn dros 40 o flynyddoedd.
Byddai'r newid arfaethedig o dan y polisi drafft yn effeithio'n bennaf ar Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn, ac Ysgol Ein Harglwyddes, sy'n ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.
Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu categoreiddio fel “ysgolion Categori 3T” neu “ysgolion pontio” sy'n symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg lawn.
Mae’r Gymraeg eisoes yn brif gyfrwng yng ngweddill y 90+ o sefydliadau addysgol y sir.
'Taith'
Wrth agor y drafodaeth, dywedodd y Cyngorydd Dewi Jones, deilydd y portffolio addysg ar gabinet y cyngor mai "cychwyn ar daith" oedd y polisi drafft, gyda'r polisi presennol mewn lle ers 1984.
Dywedodd fod hwnnw wedi bod yn bolisi llwyddianus ond bod yr amser wedi dod i esblygu, gan adeiladu ar y polisi hwnnw.
Ychwanegodd ei fod yn "amserol i adolygu'r polisi" a'i gryfhau - gan dderbyn bod her yn bodoli i rai ysgolion petae'r polisi newydd yn cael ei fabwysiadu.
Yn ystod y drafodaeth dywedodd ei fod yn siomedig iawn gyda sylw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar AS, am ei feirniadaeth ohono a'r polisi drafft dan sylw. Roedd y Ceidwadwyr wedi disgrifio'r polis fel un "hollol annerbyniol".
Dywedodd Mr Jones wrth y pwyllgor: "Dwi'n siomedig iawn iawn o'r agwedd yna. O ni'n meddwl yn eitha naïf felly, neu'n gobeithio mai Mr Millar sydd yn y lleiafrif bychan iawn, a'n bod ni wedi cyrraedd lle yng Nghymru lle mae'r Gymraeg yn cael ei derbyn a'n bod ni i gyd yn gytun bod ni eisiau gweld twf yn y Gymraeg a'n bod ni eisiau gweld ein plant a'n pobl ifanc yn cael cyfleoedd.
"O ni'n meddwl fod y dyddiau o ddefnyddio'r Gymraeg fel rhyw fath o ffwtbol gwleidyddol i sgorio pwyntiau wedi dod i ben."
Ymgynghori
Cyn cael eu mabwysiadu, byddai'n rhaid i’r newidiadau arfaethedig gael eu craffu a’u trafod yng nghabinet y cyngor a’r cyngor llawn cyn i unrhyw newid ddigwydd.
Fe fyddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal hefyd i gasglu barn maes o law.
Fe godwyd pryderon yn ystod cyfarfod y pwyllgor am fonitro'r newidiadau yn y blynyddoedd i ddod petae nhw'n cael eu derbyn.
Dywedodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Cyngor Gwynedd, Rhys Glyn, y byddai disgwyl i swyddogion addysg gadw llygad ar y sefyllfa yn y dyfodol.
Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai rhai ysgolion yn llithro'n ôl o ran y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg pan fyddai polisi newydd mewn grym.
Mesur cynnydd
Cododd y Cyngorydd Rhys Tudur bryder nad oedd y polisi drafft yn "cynnig uchelgais at gynnydd mesuradwy".
"Oes mae na eiriau'n dweud ein bod ni eisiau cynyddu'r ddarpariaeth, ond beth dydi o ddim yn ei ddweud ydy 'sut mae hynny'n ganranol yn digwydd'?
"A sut mae gwella dros amser? Mae hynny'n absennol o'r polisi."
Derbyniodd Rhys Glyn fod geiriad y polisi drafft yn un cryno a derbyniodd y sylw bod lle i dynhau geiriad y polisi drafft mewn mannau.
Dywedodd hefyd mai "gwaelodlin" oedd yr awgrym yn y polisi wrth ymateb i'r feirniadaeth am ddiffyg uchelgais at gynnydd mesuradwy
Gofynnodd Colette Owen, Aelod Cyfetholedig sydd yn cynrychioli'r Eglwys Gatholig ar y pwyllgor pa bryd y byddai'r cyngor yn ymgynghori gyda swyddogion yr eglwys a llywodraethwyr i drafod y newidiadau arfaethedig cyn penderfynu'n derfynol.
Fe ategwyd y byddai'r polisi drafft yn mynd drwy broses o ymgynghori trylwyr cyn cael ei fabwysiadu.
Dywedodd cyn arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fod y polisi drafft yn un "cadarnhaol" ac "uchelgeisiol".
Galwodd ar ei gyd-aelodau ar y pwyllgor i beidio a chyfleu negeseuon mor "dywyll ac anobeithiol" am sefyllfa'r Gymraeg.
"Os byddwn yn parhau i wneud hynny, dyna fydd tranc yr iaith."