Tsieina yn gosod tariff o 84% ar nwyddau o America
Mae Tsieina wedi taro'n ôl yn erbyn tollau Donald Trump drwy gyflwyno tariff o 84% ar y nwyddau sy'n cael eu mewnforio o America.
Daw'r penderfyniad wedi i Arlywydd America gyflwyno tariff o 104% ar nwyddau Tsieineaidd, gan yna ei godi i 125% oherwydd "diffyg parch" gan Tsieina.
Rhybuddiodd Tsieina yn gynharach yn yr wythnos y bydden nhw'n cymryd "gwrth-fesurau" yn erbyn Mr Trump pe bai'n gwneud hyn.
Mae Tsieina bellach wedi gweithredu'r hyn roedd yn bygwth ei wneud.
Yn wreiddiol roedd tariff o 34% ar fewnforion o Tsieina a thariff arall o 20% yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Tsieina bryd hynny y bydden nhw'n gosod cyfradd tariffau o 34% ar fewnforion o'r Unol Daleithiau.
Fodd bynnag, mae Mr Trump wedi oedi gosod tollau uwch ar wledydd eraill am gyfnod o 90 diwrnod.
"Daeth at ei gilydd yn weddol gynnar y bore yma,” meddai Mr Trump wrth gyfeirio at ei gyhoeddiad am yr oedi.
"Fe wnaethon ni ei ysgrifennu o’n calonnau - dydyn ni ddim eisiau brifo gwledydd sydd ddim eisiau cael eu brifo ac maen nhw i gyd eisiau trafod."
Ychwanegodd Mr Trump ei fod yn fodlon trafod gyda Tsieina hefyd.