Ras y SheUltra ym Mhen Llŷn: 'Ma' gen pawb ei reswm'

Ras y SheUltra ym Mhen Llŷn: 'Ma' gen pawb ei reswm'
Gyda digwyddiad rhedeg ultra benywaidd yn cael ei gynnal ym Mhen Llŷn ddydd Sadwrn, mae tair dynes wedi rhannu eu rhesymau nhw dros gystadlu yn y ras.
Mae 1,800 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan yn ras y SheUltra, a fydd yn cael ei chynnal am yr ail waith yn unig yn ei hanes.
Bwriad ras y 'SheUltra' ydy ysbrydoli menywod o bob lefel ffitrwydd i herio eu hunain ar y cwrs 50km ym Mhen Llŷn.
Mae'r ras yn dangos cefnogaeth tuag at ferched sydd wedi'u heffeithio gan ganser.
Bydd y ras yn dechrau ym mhentref Abersoch ac yn gorffen yn nhref Pwllheli.
Wrth siarad ar raglen Heno nos Fercher, dywedodd Nan Powell: "Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i neud y SheUltra, dwi wrth fy modd yn cerddad, 'di cael fy magu yn Eryri.
"Dwi'n arbennig 'leni yn neud o er mwyn casglu arian at apêl arbennig, Apêl Manipur. Ma' Manipur yn dalaith fechan yng ngogledd-ddwyrain yr India. Ma' hi 'di wynebu gwrthdaro enfawr yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf."
'Emosiynol iawn'
Fe fydd Linda Jones yn rhedeg y ras er cof am ei thad.
"Rhyw fath o ras elusennol ydi hi ond dydi hi'm yn ras chwaith, mae pawb yn cael neud o yn ei amser ei hun, Ma' hi'n 31.5 milltir sydd yn dipyn o daith, dyna pam ma' nhw'n galw hi'n ultra. Ma' gen pawb ei reswm dros ei neud o a mae o'n emosiynol iawn," meddai.
"Dwi'n codi arian i'r Uned Gofal Dwys lle o'dd Dad achos oedd Dad 'di diodda Covid a catho ni ddim g'neud dim byd fatha gwasanaeth cnebrwn na dim byd so o'n i'n meddwl neud o er mwyn Dad. Ma' Gwenno fy merch yn neud o efo fi so gobeithio fydd o'n prowd ohona ni."
Un arall fydd yn cymryd rhan fydd Kelly Ann Booth-Williams.
"Golles i Mam 10 mlynedd yn ôl i ganser felly ma' hwn yn agos iawn i fi. Dwi'n meddwl bod o'n helpu efo galar i neud petha fel hyn, marathons, ultra-marathons, She Ultras, bob dim felly," meddai.
"Y ffaith bo' nhw'n hel gymaint o bres at elusen, ma'n amazing."