Undeb Rygbi Cymru yn cymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr am gyfnod.
Mewn datganiad dywedodd URC eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad wedi iddi “ddod yn glir” na fyddai perchennog Rygbi Caerdydd, sef Helford Capital, yn gallu cyflawni eu dyletswyddau ariannol bellach.
Mae asedau a busnesau’r clwb rygbi bellach wedi’u trosglwyddo i URC.
Ni fydd chwaraewyr clwb Rygbi Caerdydd na staff chwaith yn cael eu heffeithio gan y datblygiadau yma ac fe fydd pob gem yn cael ei chwarae, medd datganiad URC brynhawn ddydd Mercher.
Dywedodd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â Bwrdd Rygbi Caerdydd ers peth amser.
“O ganlyniad, mae URC wedi gallu ymateb yn fuan er mwyn rhoi cefnogaeth i Gaerdydd,” meddai.
Dywedodd ei bod yn hollbwysig fod Caerdydd yn parhau fel cartref rygbi proffesiynol yn y dyfodol.
Yn ôl URC, Caerdydd yw'r mwyaf o'r pedwar clwb proffesiynol yng Nghymru. Mae’r boblogaeth o fewn y rhanbarth yn cynnwys mwy o glybiau a mwy o ysgolion nag unrhyw un arall.
Dywedodd Abi Tierney: "Y chwaraewr, y staff a'r cefnogwyr yw'n blaenoriaeth.
"Gallant fod yn sicr y bydd rygbi proffesiynol yn parhau ym Mharc yr Arfau.”
Dywedodd cadeirydd Rygbi Caerdydd, Alun Jones: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am sicrhau sefydlogrwydd ariannol a sicrhau bod rygbi proffesiynol yn parhau yng Nghaerdydd wrth i ni nesáu at dymor 150.”