
‘Teimlo’n genfigennus o'r genod eraill': Galar chwaraewr rygbi wedi colli ei thad
Mae cyn-chwaraewr tîm rygbi Cymru wedi dweud bod symud i Tsieina i hyfforddi wedi rhoi cyfle iddi adlewyrchu ar ei bywyd, yn dilyn marwolaeth ei thad wedi damwain wrth chwarae'r gêm.
Fe gollodd Teleri Wyn Davies, 27 oed o'r Bala, ei thad Bryan ‘Yogi’ Davies pan oedd hi'n ei harddegau.
Bu farw’r bachwr yn 2013 wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol mewn gêm rygbi chwe blynedd yn gynharach, gan ei adael wedi ei barlysu o’i wddf i lawr.
A hithau wedi symud i Tsieina y llynedd i hyfforddi'r gamp, mae Teleri yn dweud ei bod wedi cael “cyfle i adlewyrchu” ar ei bywyd dros y chwe mis diwethaf.
“Allan yn fama dwi ‘di cael cyfle i adlewyrchu ar fi’n hun a bywyd fi a teimladau fi’n hun,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Nôl adra ac weithiau allan yn fama dwi’n cael pyliau lle dwi’n mynd reit genfigennus.
“Dwi’n teimlo fatha o’n i’n genfigennus pan oedd y genod yn gallu mynd at eu tadau ar ôl y gem, siarad am y gêm, cael hyg gan Dad a tap ar ysgwydd.
“Dwi erioed ‘di cael hynna ar ôl i fi fod yn semi-professional yn chwarae’n rhyngwladol.”
Pennod newydd
Ar ôl graddio yn y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, bu Teleri’n gweithio fel cyfreithwraig.
Erbyn hyn mae hi’n byw yn Shenzen yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.
Yno mae hi’n hyfforddi tîm rygbi’r Shenzen Pirates ac yn chwarae i dîm Kowloon dros y ffin yn Hong Kong, ac yn gweithio fel athrawes meithrin.
Dywedodd Teleri mai ei thad oedd wedi ei hysbrydoli i wneud hynny, wedi iddo ddweud y byddai'n chwarae rygbi pe bai'n cael “byw bywyd normal” eto.

“Dyna pam nes i fynd i chwarae, dyna sy ‘di pwsho fi ‘mlaen a nes i erioed meddwl ‘swn i’n cael y cyfle i gynrychioli fy ngwlad,” meddai.
“Do’n i erioed yn meddwl ‘swn i’n gallu mynd mor bell â hynna a nes i erioed feddwl ‘swn i allan yn Tsieina yn hyfforddi, a chwarae rygbi’n Hong Kong.”
Mae Teleri yn dweud bod rygbi wedi “rhoi gymaint” iddi er ei bod wedi colli ei thad drwy’r gamp.
“Mae bod allan yma wedi gwneud i mi sylweddoli gymaint mae rygbi’n rhoi i rywun,” meddai.
“Ers dwi ‘di bod yn bedair oed dwi ‘di bod yn rhan o glwb rygbi - Clwb Rygbi’r Bala, Clwb Rygbi Caernarfon a rŵan y Shenzen Pirates.
“Mae bob un o’r clybiau yna wedi rhoi gymaint i fi, felly mae o’n fwy na jyst gêm - mae o’n gymuned, mae o’n deulu.”

Ond ychwanegodd ei bod yn dal i deimlo’n ofnus wrth gamu ar y cae chwarae.
“Does ‘na neb heblaw fy mrawd yn gwbod sut mae’n teimlo i golli Dad drwy’r gêm,” meddai.
“Bron iawn bob un gêm mae gen i ofn mynd ar y cae, ond unwaith mae’r chwiban cynta 'na wedi mynd a dwi ‘di cario’r bêl mae’r ofn yn diflannu.
“Doesa ‘na neb yn dallt bo fi’n teimlo fel ‘na ac mi ydw i, ond dydi o’m yn ddigon o reswm i fi roi’r gorau i’r gêm.
“Mae ‘na fwy o positifs yn dod allan o’r gêm na sy ‘na o negatifs.”
Hyrwyddo rygbi yn Tsieina
Bwriad Teleri dros y flwyddyn nesaf yw parhau i hyrwyddo’r gamp yn Tsieina.
“Dim ond ni [y Shenzen Pirates] ac un clwb arall sydd ‘na yn Shenzen gyfa, dydi o ddim yn gêm boblogaidd yma,” meddai.
“Felly dwi’n teimlo fel bo’ fi yma i drio gwneud o’n gêm boblogaidd.”
Hyd yma, mae hi wedi llwyddo i gael tua 25 o fenywod i chwarae rygbi am y tro cyntaf.
“Mae’r safon yn reit isel pan mae’n dod at rygbi cymunedol,” meddai.
“Ond unwaith ti’n mynd dros y ffin i Hong Kong mae’r safon yn gwella ac mae gen ti championship a premiership.”

Dywedodd Teleri ei bod yn chwarae yn yr uwch gynghrair ar hyn o bryd.
“Mae’r safon yn o lew, dydi o ddim fel premiership Lloegr lle o’n i’n arfer chwarae [i'r Sale Sharks ym Manceinion],” meddai.
“Mae ‘na chwaraewyr da iawn yn chwarae yn y premiership yn Hong Kong ac mae’n neis weithia cael ‘chydig bach o gystadleuaeth, felly yn Hong Kong mae hi’n stori wahanol i Tsieina, ond ‘da ni reit ar y ffin felly mae gen ti’r opsiwn i chwarae safon rygbi uwch.”
Ond nid yw Teleri yn poeni'n ormodol am y safon.
“Dwi ddigon hapus os alla i gael llond llaw o genod yn joio rygbi,” meddai.
“Dwi'm yn gwbod os dwi’n cael quarter life crisis neu be' uffar dwi’n gael, ond nes i'm meddwl llawer am y penderfyniad i ddod yma.
“Roedd 'na jyst wbath yn y gut yn deud bo' fi angen dod yma a neud o, a dwi 'di dod yma i neud o!”
Ychwanegodd: “Sgen i'm syniad lle dwi’n mynd nesa a be' dwi’n neud nesa - dwi jyst yn byw bob munud i’r eithaf.”