Newyddion S4C

Y tywydd a chostau uchel wrth wraidd pryderon busnesau dros y Pasg

Newyddion S4C

Y tywydd a chostau uchel wrth wraidd pryderon busnesau dros y Pasg

“Yr un stori eto - unwaith mae gwyliau’r plant yn dachre, mae’r glaw yn dod.”

Wrth i dymor y Pasg gyrraedd, ychydig dros hanner busnesau’r diwydiant ymwelwyr sy’n hyderus am yr hyn sydd gan 2025 i’w gynnig. 

Costau uchel, ac ansicrwydd tywydd sydd ymhlith y rhesymau dros hynny.

Mae Huw Reed yn rhedeg caffi a bwyty Tafell a Tân yn Llangrannog ac yn edrych allan ar faes parcio gwag a glawiog.

“Mae e’n effeithio ar bopeth, yn enwedig busnes fel ni sydd ar lan y môr. Mae pawb moyn bod ar y traeth, yn joio’r haul a joio’r môr.

" ‘Se ni’n mynd ar Wŷl Banc rhywbryd, a’r tywydd yn sbeshal, yn yr haf gorau gei di, yn erbyn diwrnod fel heddi’ nawr, chi siwr a fod yn mynd i chwarteri be’ galle chi gymryd o gymharu â be’ ni siwr a fod yn mynd i gymryd heddi’.

"Mae’r adeg i neud yr arian rhwng nawr a mis Medi so mae fe’n amser itha’ byr. So pan ni’n cael tywydd fel hyn, mae e’n effeithio dros y flwydydn wedyn.”

'Llai o bobl yn bwcio'

Yn ôl holiadur ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r gyfran o fewn y sector twristiaeth sy'n mynegi hyder, sef 56% yn is na'r adeg hon y llynedd pan oedd y ganran yn 64%.

Mae amryw o fusnesau'n dweud bod y pryder yn deillio o’r cynnydd mewn costau cyflogaeth ddaeth i rym ym mis Ebrill, gyda’r gallu i wneud elw felly am fod yn anoddach eleni.

Yn Aberaeron, mae bwyty a gwesty’r Harbourmaster wedi cael ei effeithio gan waith adeiladu mawr yn yr harbwr, ac ansicrwydd cyffredinol o fewn y diwydiant i’w deimlo. 

Image
Gwesty'r Harbwrfeistr, Aberaeron
Gwesty'r Harbourmaster, Aberaeron

Yn ôl arolwg Llywodraeth Cymru, mae llai na hanner lletai Cymru wedi eu harchebu o flaen llaw ar gyfer mis Ebrill a Mai, a Dai Morgan, rheolwr cyffredinol y gwesty yn cadarnhau’r asesiad hwnnw.

“Ni’n cymryd bookings o flaen llaw, a sen i’n bod yn hollol onest ‘da chi, mae nhw’n arafach yn dod mewn eleni.”

Er hynny, mae Mr Morgan yn edrych ymlaen yn hyderus ac yn croesawu pob her.

“Ni’n edrych ‘mlaen at y tymor efo gwên ar ein wynebau. Ni ishe croesawu pobl. Gobeithio nawr bod y tywydd yn mynd i wella a bydd popeth arall yn mynd gyda fe.

"Hyd yn oed bod ddim cymaint o arian gyda phobl i wario na beth oedd ‘na bum mlynedd nol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu mai 38% o fewn y diwydiant sydd wedi buddsoddi yn y busnes er mwyn gwella adnoddau ar gyfer 2025, ansicrwydd ynglyn â nifer cwsmeriaid sydd i gyfrif yn ôl Cadirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Rowland Rees-Evans.

“Yr her mwyaf ar hyn o bryd yw’r bobl yn ffonio lan munud diwethaf i fwcio. Sdim ffordd allwch chi baratoi am hynny, ond wy’n credu bod y diwydiant ei hunan dal yn weddol gryf ond mae na sawl her o’n blaen ni o ran y pethau sydd tu allan i’n control ni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.