Carcharu dyn am achosi marwolaeth ei ffrind
Mae dyn o Dorfaen wedi cael ei garcharu am achosi marwolaeth ei ffrind.
Cafodd Joshua Pearce, 29, o Gwmbran, ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am fwy na naw mlynedd.
Fe wnaeth Pearce gyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal tra o dan ddylanwad cyffuriau pan ymddangosodd yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau.
Roedd yn gyrru ar hyd Cocker Avenue yng Nghwmbran pan y gwnaeth golli rheolaeth o'i gerbyd am tua 22:50 ar 23 Ebrill y llynedd.
Cafodd y dyn arall yn y car, Sam Bevan, 26, o Bont-y-pŵl ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd y Sarjant Shane Draper o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gwent: "Mae hwn yn achos trasig sydd wedi arwain at golli bywyd yn ddi-angen. Mae gweithredoedd Pearce yn amlygu y peryglon o yrru yn anghyfrifol.
"Wedi'r gwrthdrawiad, fe wnaeth Pearce ffoi o'r gwrthdrawiad, gan adael ei ffrind oedd wedi'i anafu yn ddifrifol yn y cerbyd.
"Mae methiant Pearce i ganolbwyntio bob amser ac yna i yrru o dan ddylanwad cyffuriau wedi arwain at ganlyniadau dinistriol."