Cyhuddo dyn o Gasnewydd o fod yn aelod o IS
Mae swyddogion o adran Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru wedi cyhuddo dyn o Gasnewydd o fod yn aelod o IS - y Wladwriaeth Islamaidd.
Cafodd Shazad Ali, 20 oed, ei gyhuddo ddydd Mercher o droseddau o dan Adran 11 Deddf Terfysgaeth 2011.
Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â pherthyn i sefydliad gwaharddedig a galw am gefnogaeth i fudiad sydd wedi ei wahardd, sef y Wladwriaeth Islamaidd.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod â deunydd sy'n debygol o fod o ddefnydd i berson sy'n paratoi neu'n cyflawni gweithred o derfysgaeth.
Cafodd mechnïaeth ei wrthod i Mr Ali ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Westminster trwy gyswllt fideo o Gaerdydd fore dydd Iau.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn y bydd yn ymddangos yn Llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener 2 Mai.
Nid yw'r heddlu'n credu bod risg ehangach i'r cyhoedd mewn perthynas â'r achos hwn.