Dedfryd o 12 mlynedd i ddyn o Drefaldwyn am 'ymosodiad milain'
Sam Williams
Mae dyn o Drefaldwyn wedi derbyn dedfryd o 12 mlynedd am ymosodiad "milain" gyda chyllell.
Cafodd Sam Williams ddedfryd o garchar am wyth mlynedd, wedi’i ymestyn am bedair mlynedd ar drwydded, am yr ymosodiad lle y trywanodd y dioddefwr yn ei frest a’i wyneb.
Achosodd Williams, 31 oed, anafiadau oedd yn bygwth bywyd y dioddefwr wedi'r ymosodiad treisgar tu allan i eiddo ar Lôn y Ffowndri, y Trallwng, ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd y llynedd.
Wrth ddisgrifio ei ymosodwr, dywedodd y dioddefwr: “Roedd ei lygaid yn frawychus, ac roedd yn ymddwyn fel seicopath. Yr oedd eisiau fy lladd i.
“Roedd ei lygaid a’i wyneb yn ddifynegiant – nid oedd yn edrych fel person, roedd yn edrych fel cythraul,” meddai.
Wrth i barafeddygon ruthro’r claf i’r ysbyty am lawfdriniaeth frys i achub ei fywyd, dechreuodd swyddogion yr heddlu chwilio am Williams.
Cafwyd hyd iddo yng Nghroesoswallt ar ddydd Llun 25 Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Ddiwrnod yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o geisio llofruddio a'i gadw yn y ddalfa.