Gohirio penderfyniad dros ddyfodol plasty ym Meirionnydd
Mae penderfyniad ar ddyfodol cyn blasty ym Meirionnydd wedi ei ohirio.
Mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher, roedd swyddogion wedi argymell i aelodau roi caniatâd i gais i adeiladau tai ar safle’r hen Neuadd Bontddu.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ym 1873, cafodd y plasty carreg sy’n edrych dros Afon Mawddach ei droi’n westy.
Ymhlith yr enwogion a arhosodd yno roedd y Prif Weinidogion Neville Chamberlain a Winston Churchill, yn ogystal â’r actor Richard Burton.
Ond yn 2020, fe gafodd yr adeilad ei ddifrodi gan dân.
Pan gyflwynwyd cais dwy flynedd yn ôl am 13 o dai, fe wnaeth trigolion lleol ddadlau ei fod yn or-ddatblygiad.
Tynnwyd y cais yn ôl ac mae cynigion diwygiedig bellach wedi'u cyflwyno gan Bontddu Developments.
'Dirywio'
Mae'r cwmni wedi gwneud cais i ddymchwel rhan o'r adeilad gwreiddiol ac adeiladu pum eiddo i’w gwerthu ar werth ar y farchnad agored, yn ogystal â phedwar tŷ teras fforddiadwy.
Roedd y cwmni yn dymuno gallu gwerthu'r pum eiddo ar y farchnad agored fel naill ai cartref cyntaf neu ail gartref, ond dywed swyddogion cynllunio mai dim ond cartrefi cyntaf neu brif gartrefi y dylid eu caniatáu.
Mewn adroddiad i’r pwyllgor, dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir yr awdurdod, Jonathan Cawley: “Mae’r safle mewn cyflwr bregus ac mae cyflwr yr adeilad, sydd wedi’i ddifrodwyd gan dân, yn parhau i ddirywio, ac yn amharu ar apêl weledol pentref Bontddu a’r ardal ehangach.
“Mae'r cyflwyniad diwygiedig yn ddatblygiad mwy priodol gyda darpariaeth o dai fforddiadwy newydd.”
Ar ôl ystyried y cais, penderfynodd aelodau i ymweld â'r safle cyn dod i benderfyniad, ar ôl i rai pryderon gael eu lleisio ynglŷn â nifer y tai fforddiadwy â'r effaith ar y dirwedd.
Disgrifiodd cynghorydd Gwynedd, Louise Hughes, sy’n cynrychioli Arthog, y cais fel un “emosiynol”.