
Apêl am wybodaeth ar ôl dod o hyd i gorff ci wedi newynu
*Rhybudd: Gall y llun isod beri gofid*
Mae elusen yr RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i aelod o'r cyhoedd ddod o hyd i gorff ci oedd wedi newynu ym Merthyr Tudful.
Fe gafodd corff y ci ei ddarganfod ar waelod Stryd Elizabeth Uchaf yn Nowlais tua 16.15 ddydd Mawrth.
Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi llun o’r ast gan ddweud bod patrwm ei chot yn golygu efallai y bydd modd i rywun ei hadnabod.
“Mae wedi bod yn drist iawn darganfod y ci yma - sydd tua dwy oed - yn y fath gyflwr newynog,” meddai Gemma Cooper, Dirprwy Brif Arolygydd yr RSPCA.
“Hoffen ni ddiolch i’r unigolyn aeth a’r ci at y fet - ac mi ydan ni nawr yn apelio am wybodaeth.
“Mae ei chot yn unigryw ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ein ffonio ar 0300 123 8018 a dyfynnu cyfeirnod 01488014.”
