Newyddion S4C

Gwynedd: Trafod gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg pob ysgol yn y sir

10/04/2025
Plant ysgol

Bydd cynghorwyr Gwynedd yn cyfarfod fore Iau i drafod cynlluniau i droi ysgolion prif ffrwd Saesneg yn y sir yn rhai cyfrwng Cymraeg. 

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir yn y dyfodol.

Mae'r awdurdod yn cynnal yr adolygiad mwyaf o'i bolisi addysg iaith Gymraeg mewn mwy na 40 o flynyddoedd.

Byddai'r ad-drefnu yn gweld y Gymraeg yn dod yn brif iaith addysg i holl blant yn ysgolion y sir.

Yn ôl Drafft Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd, nod y cynlluniau yw “cynnal y Gymraeg a hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn y sir.”

Fe fydd aelodau pwyllgor craffu addysg y cyngor yn trafod y polisi mewn cyfarfod fore Iau.

Byddai'n rhaid i’r newidiadau arfaethedig gael eu craffu a’u trafod yng nghabinet y cyngor a’r cyngor llawn cyn i unrhyw newid ddigwydd. 

Fe fyddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal hefyd i gasglu barn maes o law. 

Pa ysgolion? 

Byddai'r newid arfaethedig yn effeithio'n bennaf ar Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn, Tywyn ac Ysgol Ein Harglwyddes, sy'n ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu categoreiddio fel “ysgolion Categori 3T” neu “ysgolion pontio” sy'n symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg lawn.

Mae’r Gymraeg eisoes yn brif gyfrwng yng ngweddill y 90+ o sefydliadau addysgol y sir. 

Ystyrir eu bod yng Nghategori 3 Llywodraeth Cymru – ysgolion sydd eisoes yn cynnig swm sylweddol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda’r Gymraeg yn brif iaith cyfathrebu mewnol.

Byddai'r plant sy’n symud i’r sir o ardaloedd di-Gymraeg yn cael eu cyfeirio at gynllun trochi'r cyngor.

Beth yw'r newidiadau? 

Mae'r prif newidiadau, os y byddant yn cael eu derbyn, yn golygu:

-Bydd pob lleoliad addysg cyn ysgol yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

-Bydd holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Blwyddyn 2 yn cael eu haddysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

-Bydd ysgolion yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd, y tu mewn a’r tu allan i’r dosbarth, mewn modd cwricwlaidd ac allgyrsiol.

-O Flwyddyn 3 ymlaen, bydd o leiaf 80% o weithgareddau addysgol y disgyblion (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

-Bydd gafael disgyblion ar y Gymraeg yn parhau i gael ei ddatblygu gan roi sylw i ddatblygiad eu sgiliau yn y ddwy iaith. 

-O Flwyddyn 3 ymlaen, bydd Saesneg yn cael ei chyflwyno fel pwnc a chyfrwng dysgu trawsgwricwlaidd.

-Mewn ysgolion uwchradd, Cymraeg fydd prif iaith addysg pob disgybl hyd at 16 oed.

-Bydd gafael disgyblion ar y Gymraeg yn parhau i gael ei ddatblygu gan roi sylw i ddatblygiad eu sgiliau yn y ddwy iaith. 

-Bydd Saesneg yn parhau i gael ei gyflwyno fel pwnc a chyfrwng dysgu rhai elfennau trawsgwricwlaidd.

-Disgwylir i ysgolion sicrhau bod pob disgybl (Blynyddoedd 2-9) sy’n hwyrddyfodiaid a siaradwyr Cymraeg newydd yn cael eu cyfeirio i fynychu System Addysg  Drochi Gwynedd.

-Bydd plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle cyfartal ieithyddol yn unol â’r polisi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.