Newyddion S4C

Cludo saith heddwas i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad

09/04/2025
Gwrthdrawiad ar yr A1

Fe gafodd saith heddwas eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd y A1 yn Tyneside, gogledd Lloegr bore Mercher. 

Mae un heddwas yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi anaf i’w goes, medd Heddlu Northumbria. 

Mae dau arall hefyd yn parhau yno am gyfnod o arsylwi tra bod pedwar arall bellach wedi eu rhyddhau. 

Doedd neb o’r llu wedi dioddef anafiadau all beryglu eu bywydau. 

Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus ac mae menyw yn ei 20au hefyd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo achos o yrru’n beryglus. 

Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa. 

Image
Gwrthdrawiad ar ffordd yr A1

Roedd delweddau yn dangos pedwar car yr heddlu wedi’u difrodi ac un car arall ar ei ochr wedi’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ger Denton, Newcastle. 

Doedd y bobl oedd yn teithio mewn car BMW M Sport oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad ddim wedi eu hanafu. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 02.30 oriau man fore ddydd Mercher ac mae ymchwiliadau wedi bod yn cael ei chynnal yno ers hynny. 

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn bresennol ac mae’r ffordd yn parhau ar gau i’r ddau gyfeiriad. 

Lluniau: Owen Humphreys/PA Wire
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.